Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin Wyau pob organic
Cebabau oen Cymreig

Y Llwybr Caws

Caws wedi'i Olchi

Celtic Promise (Teifi), Saval (Teifi), Caws Cerwyn (Pantmawr), St. David's (Abergavenny)

Gall hwn fod yn gaws lled-feddal neu'n gaws caled. Yr hyn sy'n ei wahaniaethu oddi wrth gawsiau eraill yw lliw'r grofen. Achosir y lliw trwy olchi neu sychu wyneb y caws â chlwtyn wedi'i socian mewn dwr halen ag ynddo facteriwm o'r enw Brevibacterium linens, a micro-organebau eraill yn aml. Gall yr hylif gynnwys perlysiau neu win hefyd ac fel rheol mae'r gwneuthurwr yn cadw'r rysáit yn gyfrinach. Crofen sych oren-frown sydd i rai cawsiau ac mae crofen cawsiau eraill yn sticlyd ag iddi arogl cryf. Mae'r rhan fwyaf o'r cawsiau hyn yn feddal ac yn hyblyg, hyd yn oed yn hufennog. Mae iddynt flas braidd yn aromatig. Ym marn llawer, mae'r arogl yn rhy gryf ac yn troi arnynt. Felly, caws i'r connoisseur yw hwn ond mae'n hawdd iawn magu blas amdano.