Academic Expert

Yn ogystal, bydd Technium Digidol yn cydleoli, yn yr un amgylchedd o ansawdd uchel, gyda rhaglenni ymchwil a datblygu mewn ystod o dechnolegau digidol gan gynnwys:  Systemau amlgyfrwng, cyfathrebu di-wifr, cyfathrebu optegol, rhwydweithiau cyfrifiadurol, adnabod llais, graffigwaith cyfrifiadurol, cyfrifiant gwyddonol, cyfrifiant perfformiad uchel, e-ddysgu, realiti rhith a graffigwaith sðn.

1. Y Ganolfan Gyfathrebu a Thechnolegau Meddalwedd (CAST)
Canolfan Ragoriaeth achrededig ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ac wedi’i lleoli yn Technium Digidol.

Gyda chysylltiadau cadarn â diwydiant, mae CAST wedi’i seilio ar waith ymchwil grðp amlddisgyblaethol o beirianwyr cyfathrebu a gwyddonwyr cyfrifiadurol, y mae ganddynt arbenigedd mewn cyfathrebu, technolegau meddalwedd a systemau amlgyfrwng. 

Mae CAST yn cynnwys isadeiledd ymchwil helaeth sy’n darparu cyfleusterau profi a mesur cyfathrebu, datblygiad meddalwedd a chyfleusterau cyfrifiant clwstwr modern ac wedi’u seilio ar bensaernïaeth.  Mae ystod o ystafelloedd amlgyfrwng yn cynorthwyo datblygiadau mewn prosesu signalau clyweledol, animeiddio a delweddu.

Mae CAST yn cyfuno arbenigedd mewn gwyddor sylfaenol yn ogystal â gwyddor gymhwysol sy’n cynnwys:

  • Cyfathrebu optegol a rhwydweithiau cyfathrebu.          
  • Amgylcheddau rhith a hysbyseg feddygol.
  • Dulliau ffurfiol, systemau diogelwch critigol a thechnolegau meddalwedd.
  • Graffigwaith cyfrifiadurol, delweddu
  • Systemau amlgyfrwng, prosesu signalau digidol ac adnabod llais.      
  • 2. Y ganolfan cyfrifiant ac efelychu

    Seiliwyd y ganolfan cyfrifiant ac efelychu ar weithgareddau adran peirianneg sifil Mhrifysgol Cymru Abertawe ac mae wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am ddatblygu technegau cyfrifiannol i efelychu problemau peirianneg.  Gan gynnwys amrywiaeth o gymwysiadau masnachol, megis dadansoddi strwythurol a thermol, yn ogystal ag aerodynameg, mae gan y ganolfan brofiad helaeth o gydweithio gyda diwydiant, yn fwyaf nodedig trwy gyfrannu at y gwaith o ddylunio’r car uwchsonig, ‘Thrust SSC’.

    Mae arbenigedd y ganolfan yn cynnwys:

  • Modelu geometreg a chynhyrchu grid i greu efelychiadau.
  • Delweddu atebion sy’n cynnwys datblygu technegau delweddu paralel i ddelio ag efelychiadau mawr a realistig wedi’u seilio ar setiau data mawr.  Mae defnyddio Stiwdio Realiti Rhith SGI-Fakespace i gynnal efelychiadau o'r fath yn galluogi dealltwriaeth well o’r efelychiad.                             
  • Cyfrifiant perfformiad uchel, gan sicrhau y gellir defnyddio’r cyfrifiaduron mwyaf yn y byd mewn ffordd effeithlon i ddatrys problemau cymhleth.
  • Amgylcheddau defnyddwyr graffigol.  Gall peirianwyr dylunio, yn hytrach nag arbenigwyr efelychu, sicrhau bod meddalwedd cyfrifant yn ddibynadwy, yn gyson ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
  • Electromagnetedd cyfrifiannol a ddefnyddir i fodelu’r rhyngweithio rhwng tonnau electromagnetig ac adeiledd haenog.  Mae un cymhwysiad mawr o’r maes hwn yn ymwneud â dylunio technoleg ddirgel yn y diwydiant awyrofod, ac fe’i ariannir gan BAe Systems a Byddin yr Unol Daleithiau.
  • Peirianneg biofeddygol.  Modelu elfen meidraidd i bennu effaith straen ar y corff sy’n deillio o weithgarwch chwaraeon cyffredin, megis penio pêl droed neu drawiad ar y grimog.  Estyniad i’r gwaith hwn yw efelychiad ffurfio ‘super-plastic’ ar gyfer dadansoddi prosthesis deintyddol strwythurau pilen.  Ariennir y gwaith hwn gan BAE ac fe’i cynhelir ar y cyd ag ysbytai Guy, King a Thomas yn Llundain.  Mae meysydd gwaith eraill yn cynnwys modelu llif aer a llif gwaed, ynghyd â delweddu meddygol i lunio rhwyll.            
  • Peirianneg amgylcheddol.  Mae’r rhaglen ymchwil hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad technegau i alluogi diwydiannau i asesu effaith eu gweithgareddau ar yr amgylchedd.  Er enghraifft, defnyddir technegau stocastig i asesu effaith plwm mewn dalgylch penodol, trwy efelychu trosglwyddo plwm o bibellau i’r cyflenwad dðr yfed.  Mae hyn yn dilyn cyflwyno rheoliadau newydd gan yr Undeb Ewropeaidd ynghylch crynodiadau plwm mewn dðr yfed.