Banner
Technium Digodol

“Rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu gweithio yng Nghymru a’r gobaith yw y bydd y Ganolfan Ddylunio yn cynnig cyfleoedd gyrfa newydd i raddedigion Cymreig o safon uchel i aros yng Nghymru - yn y gorffennol, mae nifer wedi gorfod gadael i chwilio am waith priodol gan weithio mewn gwledydd tramor yn aml.”

Dr Dilwyn Williams, Vishay Siliconix

 


Mae Technium Digidol yn cynorthwyo cwmnïau deilliedig uwch-dechnoleg a busnesau wedi’u seilio ar wybodaeth sy’n arbenigo mewn ystod o dechnolegau digidol ac mae’n cynnig:-

  • Y cyfleusterau diweddaraf gyda gwasanaeth blaen ty ac ystafelloedd cyfarfod
  • Cysylltiadau uniongyrchol ag academia a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil
  • Cymorth technegol a busnes penodol ar y safle.
  • Labordai ac offer ymchwil arbenigol ar y safle
  • Y cyfle i fanteisio ar y Stiwdio Realiti Rhith ddiweddaraf                                                           
  • Y cyfle i fanteisio ar y Labordy Agilent diweddaraf       
  • Mae Technium Digidol wedi’i gysylltu â safle cyfleuster lloeren yng nghanolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.  Bydd Sony yn cadw naw uned ddeori lle y gall cwmnïau fanteisio ar offer profi a chynhyrchu arbenigol, yn ogystal ag arbenigedd staff peirianneg profiadol iawn.

    Cefnogir Technium Digidol gan Brifysgol Cymru Abertawe, Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, Sony, IBM ac Agilent Technologies.