Cenfogaeth Busnes a Marchnata

Mae Technium Digidol yn darparu tîm o gynghorwyr arbenigol sy’n canolbwyntio ar gefnogi twf a datblygiad busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae cynghorwyr busnes penodol wrth law i ddarparu perthnasoedd gwaith agos gyda chwmnïau Technium Digidol ac i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y ddarpariaeth cefnogaeth busnes yn bodloni disgwyliadau yn llawn.

Cefnogaeth Technoleg

Mae Technium Digidol yn darparu mynediad i dîm o gynghorwyr arbenigol sy’n cynorthwyo ei gwmnïau wrth nodi rhaglenni Technoleg ac Arloesedd addas a gynigir drwy’r Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhaglenni hyn yn ymroddedig i helpu busnesau yng Nghymru lwyddo trwy ddefnyddio, rheoli a datblygu syniadau arloesol a thechnolegau newydd. Er gall meini prawf cymhwyster amrywiol fod yn berthnasol i raglenni unigol, mae llawer am ddim neu’n darparu mynediad i arian. Gellir addasu pob un ohonynt i weddu i anghenion busnes penodol.

Cymorth Ariannol

Mae sawl pecyn ariannol ar gael i gwmnïau Technium Digidol ar gyfer datblygu cynnyrch a phrosesau newydd.

Mae Technium yn gyfleuster delfrydol i’r hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud.  Byddai wedi bod yn anodd iawn ac yn gostus iawn ceisio agor swyddfa o’r un ansawdd ar ein pen ein hunain.  Cynigodd WDA lawer iawn o gyngor i ni ynghylch sut i sefydlu, gan roi manylion y bobl gywir i ni, ac yn arbennig, ein cyflwyno i Technium Digidol.  Ceir cyfleoedd trwy Technium i ni ehangu ein cynllun i lawr y ffordd.”
Dave Schultz, Rheolwr Cymwysiadau a Chymorth, NCCS