Mae’r cyfleusterau allweddol canlynol ar gael i fusnesau ifanc sy’n ymwneud â thechnoleg sydd wedi’u lleoli yn Technium Digidol@Sony: |
Siambrau gwirio amgylcheddol | Mae canolfan dechnoleg Sony y DU yn cynnwys siambrau gwirio amgylcheddol a ellir eu defnyddio i wirio adweithiau cynnyrch i wahanol amodau amgylcheddol, fel: sgraffinio, bwclo, ehangiad, trochiad mewn d?r ac eithafion tymheredd. Mae cyfleusterau gwirio diferion a dirgryniad hefyd ar gael. |
Siambr Anachoic | Mae'n ofyniad cyfreithiol i gynnyrch newydd fodloni safonau allyriant, pelydriad a chytunedd electromagnetig er mwyn cael marc CE. Mae canolfan dechnoleg Sony yn y Du yn gartref i siambr anachoic tri metr. |
Cyfleusterau ystafell lân. | Mae ystafell lân Sony yn safon dosbarth 10,000 (a chaiff ei defnyddio ar hyn o bryd i gydosod blociau pen optegol ar gyfer camerâu fideo). |
Cyfleusterau gweithgynhyrchu uwch | Mae'r cyfleusterau gweithgynhyrchu uwch yng nghanolfan dechnoleg Sony yn y DU yn cynnwys yr offer mowntio arwyneb, pelydr-x a threfn 'grid pêl' diweddaraf a ddefnyddir i roi cydrannau mewn dyfeisiau electronig, yn ogystal â chymhwysedd mowntio â llaw sy'n addas i gydosod byrddau cylched. |