Mae effaith technoleg ar ein bywydau yn ddiddiwedd. Mae anghenion defnyddwyr yn dod yn fwyfwy cymhleth, ac mae arloesedd parhaus yn cyflwyno cyfoeth o gyfleoedd masnachol i fusnesau ifanc sy’n ymwneud â thechnoleg. 


Mae cymwysiadau meddalwedd, dyfeisiau electronig a chaledwedd, ynghyd â systemau cyfathrebu cynhwysedd uchel, soffistigedig yn newyddbethau nodweddiadol y busnesau hyn. Yn wir, maent yn ymelwa ar farchnadoedd newydd mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen - yn enwyedig y rheiny sy’n ymwneud ag ymelwa ar dechnoleg ddigidol.

Mae rhan o’r rhwydwaith Technium, sef Technium Digidol@Sony yn rhoi’r amgylchedd perffaith i alluogi busnesau technoleg ifanc droi’u syniadau yn gynigion masnachol marchnadwy.


Sony Building