Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

ECM2
Golygfa 3d o'r safle
*

Cyfleusterau ECM2

Mannau Cymunedol:

Reception

Mae ECM2 yn hawdd i’w gyrraedd o draffordd yr M4, y prif orsafoedd trên a llwybrau bws, ac mae digonedd o fannau parcio diogel ar gael o fewn y tiroedd tirluniedig. Mae rhywun yn y dderbynfa eang 24/7. Oddi ar y coridorau ceir toiledau (yn cynnwys cyfleusterau anabl), cawodydd a cheginau bychan wedi’u cyfarparu at ddefnydd tenantiaid. Mae pob un o’r prif adeiladau â system aerdymheru.

Swyddfeydd:

Ceir amrywiaeth o swyddfeydd o wahanol feintiau, gyda system aerdymheru a ffenestri. Mae gan bob swyddfa fynediad band eang i'r rhyngrwyd ynghyd â chysylltiad ffôn digidol a gyflenwir fel mater o drefn.

Cyfleusterau Cynadledda:

Saith ystafell amrywiol eu maint a all ddal rhwng 2 a 90 o gynadleddwyr. Ceir yn yr holl ystafelloedd cynadledda gyfarpar clyweled llawn gan gynnwys taflunydd pell-reoli sy’n crogi o’r nenfwd, meicroffonau symudol, sgrin ryngweithiol, chwaraewyr CD, DVD, VHS, cysylltiad gliniadur a chyfrifiadur personol pen desg gyda mynediad band eang i’r rhyngrwyd. Mae un ystafell ag uned fideo-gynadledda gyda sgrin blasma.

Ystafelloedd Labordy/ Swyddfa:
Ystafelloedd Labordy/ Swyddfa

Mae ystafelloedd wedi’u haerdymheru ar gael gyda llawr parquet neu finyl. Cyflenwir mynediad rhyngrwyd band eang a chysylltiad ffôn digidol fel mater o drefn. Mae’r cyfleustodau sydd ar gael yn cynnwys nwy tref, nwy nitrogen, aer cywasgedig a dwr/draeniad. Mae tyniad mygdarth a meincio hefyd ar gael yn rhai o’r ystafelloedd.

Mannau Datblygu Peirianneg:

Mae nenfydau uchel yn y mannau hyn (dros 5m) sydd wedi’u cyfarparu â chraeniau nenbont, drysau rholio i symud llwyth/cyfarpar, a lloriau llwytho uchel. Mae’r cyfleustodau sydd ar gael yn y mannau hyn yn cynnwys cyflenwad trydan 3 cham 240 a 440, dwr, nwy a golau diwydiannol. Hefyd, mae yma weithdy dylunio a pheirianneg sydd wedi’i gyfarparu’n llawn sydd ar gael i denantiaid a chwsmeriaid allanol.

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau