Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

EMC2
Tenantiad hyd yma
*

Y,D a Th Corus:

Corus logo

Mae Ymchwil, Datblygu a Thechnoleg Corus (Corus R,D&T) yn canolbwyntio ar well technegau a rheolaeth prosesau metel, yn ogystal â chefnogaeth cwsmer yn y sectorau marchnad allweddol. Mae grwp bychan o staff Y, D a Th Corus sy’n gweithio o ECM² yn archwilio a gwella meteleg dur, rholio stribedi metel a chaenau metel.

Am ragor o wybodaeth:

*
Testing Solutions - Cymru:“Siop un alwad” ar gyfer eich holl ofynion dadansoddi a phrofi, yn cynnwys; dadansoddi cemegol, nodweddiad arwyneb, profion ffisegol a phrofion cyrydiad. Cyflawnir yr holl weithgareddau’n unol â safon ISO 9001:2000 tra fo’r prif brofion ag achrediad safon ansawdd ISO17025. Mae meysydd o arbenigedd penodol yn cynnwys cywiro diffygion proses/cynnyrch wrth gynhyrchu metel, cyrydiad atmosfferig, dadansoddiad amgylcheddol a galwedigaethol sy’n ymwneud â hylendid (hydoddyddion, dadansoddi cromadau, olew, pridd, trwytholchion o safleoedd tirlenwi ayb), metalograffeg, ynghyd â phrofi mecanyddol.

Am ragor o wybodaeth:

*

Cynhyrchion Stribedi Corus DG a Chynllun Doethuriaeth Peirianneg:

Corus logo

Mae’r Cynllun Doethuriaeth Peirianneg yn uwch raglen hyfforddiant modylaidd i wyddonwyr a pheirianwyr. Caiff ei redeg yn yr un modd â PhD traddodiadol gyda phrosiectau ymchwil sy’n seiliedig ar broblemau diwydiannol gwirioneddol. Ategir hyn gyda waith cwrs  sylweddol sy’n gosod y seiliau ar gyfer statws Siartredig. Mae tua 45 Doethuriaeth Peirianneg, sy’n cael eu rheoli gan Corus Strip Products UK a Phrifysgol Cymru’n seiliedig yn ECM².   

Am ragor o wybodaeth:

*
Quo-Tec Limited:
Quo-Tec logo

Mae Quo-Tec Limited yn gwmni ymgynghorol strategaeth technoleg deinamig (a sefydlwyd yn 1984) sydd â thystysgrif ISO9001. Maent yn cynnig gwasanaethau hynod ymatebol a hyblyg mewn amrediad eang o sectorau diwydiannol, a ategir gan adnoddau cwmni mawr trwy ei riant gwmni yn Ne Affrica. Ei gennad yw cynorthwyo cleientiaid i greu cyfoeth o wybodaeth wyddonol trwy ddefnyddio technoleg newydd a gwell.

Am ragor o wybodaeth:

*
Mas Cymru:
MAS logo

Sefydlwyd MAS Cymru i ddarparu cyngor syml, ymarferol a sylweddol yn ddi-dâl i gwmnïau Cymreig gyda’r nod o ymestyn eu gwybodaeth dechnegol, ehangu eu galluoedd rheoli ac yn y pen draw, gynyddu eu cynhyrchedd, eu proffidioldeb a’u cynaladwyedd.

Ewch i’w gwefan am ragor o wybodaeth:

*
Tech-Print Limited:
techprint logo

Mae Tech-Print yn darparu cyfleusterau dylunio a reprograffig i denantiaid ECM² a busnesau/ cwmnïau lleol allanol. Gellir darparu’r gwasanaeth hwn ar ffurf electronig drwy’r rhyngrwyd neu ar ffurf copi caled.

*
R-Tech Services Limited:
R-Tech logo

R-TECH Services Ltd yw’r unig gwmni profi ac ymgynghorol sy’n gwasanaethu diwydiant atgyfnerthu dur y DG yn benodol. Mae R-TECH yn darparu amrywiaeth gynhwysfawr o brofion mecanyddol ar dduroedd cyfnerthu a chynhyrchion cysylltiedig at safonau Prydeinig, Ewropeaidd a Rhyngwladol. Mae achrediad ISO 17025 UKAS i’r cyfan o’u profion dur cyfnerthu

Am ragor o wybodaeth:

*
Victory Lighting Limited:
Victory Lighting Logo

Sefydlwyd Victory Lighting ym 1991 i gyflenwi lampau arbenigol i OSRAM. Mae Victory yn arbenigo ar lampau is-goch dibynadwy o safon uchel am brisiau rhesymol ac mae eu llwyddiant wedi ei briodoleddu i faint eu harbenigedd technegol a’u hyblygrwydd. Mae’r adran YaD yn seiliedig yn ECM² sy’n galluogi cydweithrediad agos â Phrifysgol Abertawe.

Am ragor o wybodaeth:

*

MasnachCymru Rhyngwladol:

MasnachCymru Rhyngwladol logo

Rhaglen gynhwysfawr yw Cymorth Allforio, sy’n rhan o FasnachCymru Rhyngwladol, o gymorth ymarferol a anelwyd at gwmnïau ardaloedd Amcan 1 Cymru sydd heb allforio eu nwyddau hyd yma. Mae’n cynorthwyo cwmnïau hefyd sydd wedi allforio eisoes ond sy’n dymuno cyrchu marchnadoedd rhyngwladol newydd. Mae’r Cynghorydd Datblygu Allforion Castell Nedd/ Port Talbot yn seiliedig yn ECM².

Am ragor o wybodaeth:

*
TWI (Wales) Ltd:
TWI Logo

TWI Ltd yw un o’r sefydliadau ymchwil a thechnoleg mwyaf blaenllaw’r byd. Mae dros 450 aelod o staff yn darparu cymorth technegol diduedd ar weldio, gwaith asiedydd, NDT, wynebu, pecynnu a thorri. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys YaD cyfrinachol ar gontract, gwybodaeth dechnegol, cyngor, trosglwyddo technoleg, hyfforddiant a chymhwyso.

Am ragor o wybodaeth:

*
Quantum CAD:
Quantum CAD Logo

Mae Quantum CAD wedi darparu gwasanaethau dylunio bwrdd cylched brintiedig (PCB) ers 1994. Gwnânt ddarparu pecyn cyflawn o’r cysyniad peirianyddol i’r cynnyrch wedi’i gydosod, gyda’r gallu i ddarparu cyfleuster rhan-o’r-broses.

Am ragor o wybodaeth:

*
 Energy International Systems Limited a Superline Limited:
EIS Logo

Mae Energy International Systems (EIS) a Superline ill dau’n rhan o grwp EIS Group Ltd.  Mae’r ddau gwmni’n cyflawni gwaith datblygu prototeip yn ECM² gydag EIS yn datblygu system banel heulol y dangoswyd ei fod yn fwy effeithiol na’r systemau cyfredol gydag amseroedd ymateb sylweddol is.  Mae Superline yn gweithio ar system insiwleiddio trwy wactod sydd â phriodweddau insiwleiddio 15 gwaith gwell nag insiwleiddio gwydr ffibr confensiynol.

Am ragor o wybodaeth:

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau