


Sut i Ddod o Hyd i Ni
Mewn car: O’r De Ddwyrain a’r De Orllewin: Mae traffordd yr M4 yn rhedeg yn uniongyrchol i Bort Talbot o Lundain a Maes Awyr Heathrow (yr M25/M4 o Faes Awyr Gatwick), a’r M5/M4 o Dde Orllewin Lloegr. Trowch oddi ar yr M4 yng Nghyffordd 38 - gan ddilyn yr arwyddion A48 Port Talbot - dilynwch y ffordd am o leiaf 1km, ac mae’r fynedfa i ECM2 ar y chwith.O Ganolbarth a Gogledd Lloegr: ar hyd yr M6/M5/M50, mae’r A465, ffordd Blaenau’r Cymoedd, yn dod â chi ar draws Bannau ysblennydd Brycheiniog ac yn syth i Gwm Nedd. Ymunwch â’r M4 yng Nghyffordd 43 ac ewch oddi arni yng Nghyffordd 38 - gan ddilyn arwyddion A48 Port Talbot - dilynwch y ffordd am o leiaf 1km, ac mae’r fynedfa i ECM2 ar y chwith.
Mewn trên: Mae Intercity yn cynnig gwasanaeth pob awr yn uniongyrchol o Paddington, Llundain i Bort Talbot. I gael manylion am wasanaethau trên rhanbarthol ac Intercity, cysylltwch ag Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 0845 7 484950 neu cysylltwch ag unrhyw un o’r prif orsafoedd.
Hedfan: Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd lai na 40 milltir o Gastell Nedd Port Talbot. Am fanylion, cysylltwch â’r maes awyr ar 01446 711111. Mae Maes Awyr Abertawe hefyd o fewn cyrraedd, a gellir cysylltu â nhw ar 01792 204063.
Gellir cysylltu â’r Ganolfan Beirianneg ar gyfer
Gweithgynhyrchu a Defnyddiau (ECM2) yn:
ECM2Heol Cefn Gwrgan
Margam
Port Talbot
SA13 2EZ
Cymru
DU
Ffôn: +44 (0) 1639 864602
Ffacs: +44 (0) 1639 864603
