


Safle ECM²
Mae’r safle’n cynnwys: Prif Adeilad, Adeilad NDT ac Adeilad Ymchwil Ynni.
Prif Adeilad
Mae’r holl swyddfeydd a’r labordai wedi eu haerdymheru, ac mae aer cywasgedig a nwy naturiol ar gael ym mhob un o’r blociau ar wahan i Floc A. Mae’r holl adrannau wedi eu rhwydweithio gyda chysylltedd bandeang 2Mb.
Bloc A - Mae’r adeilad deulawr hwn yn cynnwys swyddfeydd sydd ag arwynebedd sy’n amrywio o tua 150 i 1000 tr², derbynfa a chanolfan gynadledda gynhwysfawr. Mae’r cyfleusterau cynadledda’n cynnwys dwy ystafell gynadledda fawr (lle i 80+ o gynadleddwyr ym mhob ystafell) a phum ystafell arall gyda chyfarpar pen eithaf y grefft gan gynnwys mynediad bandeang, i rhwng 12 a 30 o gynadleddwyr. Mae’r ganolfan gynadledda ar gael i’w llogi gan unrhyw gorff ar delerau cystadleuol iawn. .
Bloc B - 28 labordy ymylol a/neu uned swyddfa sydd ag arwynebedd o tua 150 i 700 tr², sy’n amgylchynu dwy ystafell ganolog 900 tr² (mae un ohonynt â tho ffenestr wedi ei godi i roi 15 troedfedd o gliriad).
Bloc C - 14 uned sy’n cynnwys 11 swyddfa/labordy allanol sy’n gwasanaethu tair ystafell brosesu/ gweithgynhyrchu ysgafn gyda nenfydau 15 troedfedd o uchder, mynediad wagen fforch godi a lloriau llwytho uchel. Mae’r unedau’n amrywio o 150tr² i 800 tr²

O'r chwith i'r dde: Swyddfa o Bloc A, Bloc B a Bloc C
Bloc D - 17 uned labordy / swyddfa ar hyd coridor canolog sy’n amrywio o ran maint o 100 i 1000 tr²
Bloc E - 25 uned labordy / swyddfa o hyd at 500 tr² o boptu coridor canolog. Mae uned hunan gynhaliol 1500 tr² sydd wedi ei hisrannu’n dri gyda chraen nenbont a drysau llydan ac uchel er hwylustod mynediad hefyd ar gael.
Bloc F - Mae’r bloc deulawr yma’n cynnwys unedau swyddfa / labordy sy’n amrywio o ran maint o 100 i 300 tr², y drws nesaf i dair cilfach nenfwd uchel. Mae’r cilfachau hyn ag arwynebedd 2,500, 4,000 a 4,500 tr², uchder o 18 tr, craeniau nenbont a drysau caead rholer mawr.
Adeilad NDT

Mae’r adeilad NDT yn gyfleuster peirianneg diogel hunan-gynhaliol 22,000 tr². Rhannwyd y llawr gwaelod yn ddwy adran yn ei hyd i lawr yr adeilad; mae’r cyntaf â nenfwd uchel (dros 25tr), craeniau nenbont a mynediad lori gymalog. Mae’r adran hon yn cynnwys y wasg ffurfio hydrolig a’r peiriant hydroffurfio tiwb yn y naill ben; fodd bynnag, mae rhan sylweddol yn parhau i fod ar gael i’w rentu. Mae’r adran arall â nenfwd is oherwydd bod unedau swyddfa/labordy ar y llawr cyntaf uwch ben. Mae’r cymhlyg labordy/swyddfa yma sydd wedi ei aerdymheru yn cynnwys unedau o boptu coridor canolog. Ar hyn o bryd, mae’r cymhlyg wedi ei rannu’n 21 uned gyda pharwydydd symudol i alluogi gwahanol gynlluniau.

Uned beirianneg hunan-gynhaliol 16,000 tr². Yn y naill ben ceir cyfleusterau swyddfa ategol, labordy a chegin, sydd ar hyn o bryd wedi ei rannu’n 14 ystafell o wahanol feintiau ar ddau lawr. Mae’r rhain yn wynebu’r man gyda nenfwd uchel sy’n cynnwys 14,000 tr² o arwynebedd llawr cynnal llwyth, ynghyd â 25 troedfedd o gliriad uchder a mynediad lori gymalog.

Unedau ar gael i’w rhentu:
Prif Adeilad: Mae unedau ar gael ym Mloc A, B, C, E ac F.
Adeilad Ymchwil Ynni: Mae’r adeilad hwn ar gael ar hyn o bryd.
