



Wedi’i leoli’n gyfleus rhwng dwy ddinas flaenllaw Cymru - Abertawe i'r Gorllewin a’r brifddinas, Caerdydd, i’r Dwyrain - mae gan Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â gweddill y DU, Ewrop a’r Byd. Lleolir ECM² oddi ar Cyffordd 38 traffordd yr M4, ac fe’i gwasanaethir gan wasanaeth trên cyflymder uchel bob awr o Paddington, Llundain, a chysylltiadau byd-eang rhwydd drwy Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, felly mae’r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer busnes a phleser. Bydd staff sy’n symud i’r ardal leol, sy’n adnabyddus am ei hansawdd bywyd a’i diwylliant, yn gweld bod dewis eang o eiddo preswyl ar gael, gyda phrisiau’n amrywio o lai na £90,000 i fwy na £350,000.

Llluniau o’r chwith i’r dde: Traeth Aberafan, Castell Margam, Dinbych-y-Pysgod
Am ragor o wybodaeth am yr ardal, ewch i:
www.neath-porttalbot.gov.uk. (This link will open in a new window)
www.swansea.gov.uk (This link will open in a new window)
www.cardiff.gov.uk (This link will open in a new window)
www.swansea-gower.co.uk (This link will open in a new window)
