Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Bara lawr ffres gyda lemon Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
    
True Taste Awards

Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2007/08

Cynhelir y gystadleuaeth am y chweched flwyddyn eleni ac mae’n cydnabod ansawdd, dyfeisgarwch a rhagoriaeth yn niwydiant Bwyd a Diod Cymru. Cyflwynir dros 500 o eitemau a gwasanaethau i gael eu beirniadu bob blwyddyn. 
 

      
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.

Mae gan fwyd o Gymru enw da ers blynyddoedd am ei arbenigrwydd a'i ansawdd da sy'n golygu ei fod yn boblogaidd gyda phobl ym mhedwar ban byd .

Gall Cymru ymfalchïo ei bod yn cyflenwi cynnyrch sydd gyda'r gorau yn y byd. Mae'r tirwedd, fel y bwyd, yn ffres, yn hyfryd ac yn amrywiol - meddyliwch am gaws a gwin unigryw, cig eidion a chig oen heb eu hail, a physgod a bwyd môr ffres - mae'r cyfan yng Nghymru.