Logo llwybro routes
Dydd Iau 04 Rhagfyr 2008

Argraffu'r dudalen
Ebostio'r dudalen

Delwedd myfyriwr mewn gwn graddio

Delwedd dyn yn gorwedd ar lawr gyda gliniadur

Mair yn gofalu am gleifion

Mair ar Ynys Wen, Seland Newydd

Mair ar Ynys Wen, Seland Newydd

Cafodd Mair dri chap rhyngwladol yn chwarae rygbi dros Gymru, ond yna cafodd anaf i'w phen-glin a roddodd derfyn ar ei gyrfa. Mae bellach yn uwch-swyddog ty yn adran ddamweiniau Ysbyty Treforus, Abertawe lle mae'n awr yn gofalu am anafiadau pobl eraill.

Dychwelodd Mair, sy'n 27 oed, i Gymru y llynedd ar ôl cwblhau hyfforddiant meddygol yn Llundain a threulio amser yn Seland Newydd.

Dywed: "Ar ôl treulio cyfnod yn Llundain a Seland Newydd, rwy'n gwerthfawrogi'r ansawdd bywyd sydd yng Nghymru. Mae'n braf bod yn ymyl fy nheulu yng Nghaerfyrddin a chael byw mewn ardal Gymraeg."

Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Gynradd Llangain ac Ysgol Gynradd Brechfa, ac yna aeth ymlaen i Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin, lle pasiodd ei arholiadau TGAU a Lefel A.


Ym 1997, aeth Mair i Ysgol Feddygol Charing Cross yn Llundain, lle bu'n hyfforddi am chwe blynedd i gael ei chymhwyster MBBS - Baglor Meddygaeth a Baglor Llawdriniaeth.

Ar ôl graddio, gweithiodd fel swyddog tyam chwe mis mewn ysbyty yn Ascot, cyn treulio chwe blynedd arall yn cael profiad o lawdriniaethau yn Ysbytai Chelsea a San Steffan.

Yn 2004 cododd ei phac a mynd i Seland Newydd. Ai rygbi ynteu brofiad gwaith a'i denodd yno? Treuliodd Mair bedwar mis yn Dunedin, ar Ynys y De a phedwar mis arall mewn ysbyty bychan yn Whakatane, yn y Bay of Plenty ar Ynys y Gogledd cyn dychwelyd i Gymru yn 2005 i weithio yn Ysbyty Treforus.

Yn ystod ei gyrfa rygbi bu'n chwarae i dîm y Quins Caerfyrddin pan oedd yn yr ysgol ac i'r ysgol feddygol pan oedd yn Llundain. Chwaraeodd i Gymru yn erbyn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn ystod y tymor 1997-98.