Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

Systemau Di-driw ParcAberporth 2005

Manylion Arddangosfa Systemau Di-griw ParcAberporth 2005

Croeso i wefan Systemau Di-griw ParcAberporth 2007! 

Byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth am y digwyddiad cyffrous hwn wrth i bethau ddatblygu, felly cofiwch ymweld yn rheolaidd â’r wefan i gael y newyddion diweddaraf. 

Mae Systemau Di-griw ParcAberporth yn gyfle diguro i arddangos ymrwymiad eich sefydliad i’r diwydiant Cerbydau Di-griw (UV) byd-eang mewn amgylchedd gweithredu pwrpasol ym Maes Awyr Gorllewin Cymru.  Mae’r digwyddiad unigryw hwn, sy’n cynnwys arddangosiadau yn yr awyr ac ar y tir, arddangosfa dan do ac arddangosfa statig, yn galluogi’r diwydiant UV i gael mynediad uniongyrchol at ei gynulleidfa darged.

Yn 2006 llwyddodd Systemau Di-griw ParcAberporth i ddenu dros 600 o gyfranogwyr a fu’n gwylio arddangosiadau hedfan 5 o systemau di-griw.  At ei gilydd, cymerodd saith ar hugain o gwmnïau ran yn yr arddangosfa dan do yn ogystal ag arddangosfeydd awyrennau statig ac arddangosfeydd ar y tir, gan sicrhau mai’r digwyddiad blynyddol hwn yw’r arddangosiad mwyaf yn Ewrop o systemau di-griw.

A nawr, yn ei phedwaredd flwyddyn, yr addewid yw y bydd Systemau Di-griw ParcAberporth yn fwy ac yn well!  Mae’r digwyddiad arbennig hwn y ceir ei fynychu ‘trwy wahoddiad yn unig’ yn dechrau ar 11eg Gorffennaf gyda diwrnod llawn o ymarfer i’r arddangoswyr sy’n cymryd rhan a’u gwesteion arbennig.  Bydd y Neuadd Arddangos yn agor yn ddiweddarach yn ystod yr un prynhawn i bawb sy’n mynychu a cheir Derbyniad Coctels a gaiff ei ddilyn gan ‘Wledd Blas ar Gymru’ .... cyfle ardderchog i rwydweithio a fydd hefyd yn caniatáu i chi eistedd yn ôl a blasu lletygarwch Cymru ar ei orau!

Golff a Fforwm

Mae’n bleser mawr gennym gyflwyno dwy elfen newydd i’r digwyddiad gyda Chystadleuaeth a Fforwm Golff ParcAberporth 2007.  Cynhelir y Gystadleuaeth Golff, mewn cysylltiad â Chwpan Ryder Cymru, yng Nghlwb Golff Aberteifi - cwrs cyswllt sy’n edrych dros harddwch Aber Afon Teifi.  Fe’ch gwahoddir i gystadlu gyda thîm o 4 am £300 (neu £500 am dîm dwbl) er mwyn ceisio ennill ein cystadleuaeth gyntaf. Cysylltwch â Mike Wild yn mike.wild@wales.gsi.gov.uk

Mae ein Fforwm ar y Farchnad Sifil Gyflymedig yn anelu at hybu datblygiad rhaglenni sifil sy’n si?r o sbarduno trafodaeth gyffrous a bywiog rhwng ein panel o ddefnyddwyr sifil/masnachol a’r diwydiant cerbydau awyr di-griw (uav). Cadwch lygaid barcud am ragor o fanylion!

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau