
Manylion Arddangosfa Systemau Di-griw ParcAberporth 2005

Croeso i wefan Systemau Di-griw ParcAberporth 2007!
Byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth am y digwyddiad cyffrous hwn wrth i bethau ddatblygu, felly cofiwch ymweld yn rheolaidd â’r wefan i gael y newyddion diweddaraf.
Mae Systemau Di-griw ParcAberporth yn gyfle diguro i arddangos ymrwymiad eich sefydliad i’r diwydiant Cerbydau Di-griw (UV) byd-eang mewn amgylchedd gweithredu pwrpasol ym Maes Awyr Gorllewin Cymru. Mae’r digwyddiad unigryw hwn, sy’n cynnwys arddangosiadau yn yr awyr ac ar y tir, arddangosfa dan do ac arddangosfa statig, yn galluogi’r diwydiant UV i gael mynediad uniongyrchol at ei gynulleidfa darged.
Yn 2006 llwyddodd Systemau Di-griw ParcAberporth i ddenu dros 600 o gyfranogwyr a fu’n gwylio arddangosiadau hedfan 5 o systemau di-griw. At ei gilydd, cymerodd saith ar hugain o gwmnïau ran yn yr arddangosfa dan do yn ogystal ag arddangosfeydd awyrennau statig ac arddangosfeydd ar y tir, gan sicrhau mai’r digwyddiad blynyddol hwn yw’r arddangosiad mwyaf yn Ewrop o systemau di-griw.
A nawr, yn ei phedwaredd flwyddyn, yr addewid yw y bydd Systemau Di-griw ParcAberporth yn fwy ac yn well! Mae’r digwyddiad arbennig hwn y ceir ei fynychu ‘trwy wahoddiad yn unig’ yn dechrau ar 11eg Gorffennaf gyda diwrnod llawn o ymarfer i’r arddangoswyr sy’n cymryd rhan a’u gwesteion arbennig. Bydd y Neuadd Arddangos yn agor yn ddiweddarach yn ystod yr un prynhawn i bawb sy’n mynychu a cheir Derbyniad Coctels a gaiff ei ddilyn gan ‘Wledd Blas ar Gymru’ .... cyfle ardderchog i rwydweithio a fydd hefyd yn caniatáu i chi eistedd yn ôl a blasu lletygarwch Cymru ar ei orau!
Golff a Fforwm
Mae’n bleser mawr gennym gyflwyno dwy elfen newydd i’r digwyddiad gyda Chystadleuaeth a Fforwm Golff ParcAberporth 2007. Cynhelir y Gystadleuaeth Golff, mewn cysylltiad â Chwpan Ryder Cymru, yng Nghlwb Golff Aberteifi - cwrs cyswllt sy’n edrych dros harddwch Aber Afon Teifi. Fe’ch gwahoddir i gystadlu gyda thîm o 4 am £300 (neu £500 am dîm dwbl) er mwyn ceisio ennill ein cystadleuaeth gyntaf. Cysylltwch â Mike Wild yn mike.wild@wales.gsi.gov.uk
Mae ein Fforwm ar y Farchnad Sifil Gyflymedig yn anelu at hybu datblygiad rhaglenni sifil sy’n si?r o sbarduno trafodaeth gyffrous a bywiog rhwng ein panel o ddefnyddwyr sifil/masnachol a’r diwydiant cerbydau awyr di-griw (uav). Cadwch lygaid barcud am ragor o fanylion!
