

Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cynnwys Gwefan SA1 Sourcing
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio menter cyflenwyr fawr i sicrhau bod busnesau lleol yn elwa ar ddatblygiad £200miliwn SA1 Glannau Abertawe.
Bydd angen nwyddau a gwasanaethau gwerth miliynau o bunnoedd ar ddatblygwyr wrth i waith adeiladu ddechrau ar nifer o brosiectau allweddol ar SA1, gan gyflwyno cyfleoedd sylweddol.
Sefydlwyd SA1 Sourcing i sicrhau’r buddion mwyaf posibl i’r gymuned fusnes leol trwy gysylltu â’r datblygwyr unigol a’u hannog i brynu’n lleol.
Dywedodd Richard Harris, Rheolwr Datblygu Busnes, y byddai ystod o gyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg wrth i’r gwaith adeiladu gyflymu ar SA1.
“Mae SA1 yn brosiect adfywio pwysig a fydd yn trawsffurfio ardal fawr o dir dociau segur a’n prif nod yw sicrhau bod y gymuned fusnes leol yn elwa o’r rhaglen hon.
“I ddechrau, bydd cyfleoedd yn canolbwyntio ar y cyfnod adeiladu a gwaith llawr cysylltiedig ond wrth i’r prosiect ddatblygu, cyflwynir cyfleoedd newydd yn amrywio o ddodrefnu a ffitiadau i wasanaethau.”
Cysylltiadau:
Jenny Evans Cydlynydd Datblygu Busnes
Bob Palmer Hyrwyddwr Ceisio Ffynonellau
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 08457 775577.

