Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

SA1 yn fyn
SA1 lifestyle

“Mae’n bleser gan y Brifysgol gymryd rhan yng ngweddnewidiad SA1 Glannau Abertawe. Bydd y datblygiad hwn yn ganolbwynt arall i ddenu sylw rhyngwladol i Abertawe, gan greu busnes, ymchwil a chyfleoedd diwylliannol.”

Yr Is Ganghellor, yr Athro Robin Williams
FRS, UWS

Dinas Abertawe
Prif fantais SA1 Glannau Abertawe dros ailddatblygu dociau eraill yw ei leoliad yng nghanol dinas Abertawe. Os oes un lleoliad sy’n gallu cynnig ansawdd bywyd cyfoethog, Abertawe yw hwnnw. Gyda glan môr, cefn gwlad, pentrefi llawn cymeriad, canol dinas sy’n ffynnu - mae’r tirlun godidog ac amrywiol hwn, ynghyd â’i leoliad ardderchog ar arfordir De Cymru, yn gwneud Abertawe yn arbennig. Mae gan Abertawe boblogaeth o 570,000 o fewn hanner awr o yrru, ac fe’i disgrifiwyd fel ‘mynedfa’ i Orllewin Cymru, gan fod iddi safle strategol yn natblygiad hanesyddol, gwleidyddol ac economaidd Cymru.

Mae Abertawe yn ddinas greadigol fywiog, gyffrous sy’n llawn cerddoriaeth, celf a diwylliant. Mae Abertawe yn ymfalchïo yn ei threftadaeth a’i hysbryd gymunedol a’i phoblogaeth yn cynnwys pobl fentrus gyda syniad cryf o agosrwydd, sydd wedi herio a gorchfygu newid cymdeithasol a diwydiannol enfawr dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae Abertawe hefyd wedi sicrhau enw da fel man dysgu sy’n uchel ei barch, drwy ei Phrifysgol sy’n cynhyrchu graddedigion gyda chymwysterau uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r elfennau hyn yn cyfuno i roi amgylchedd delfrydol ar gyfer busnesau creadigol a mentrus. Bydd SA1 Glannau Abertawe yn ychwanegu at lwyddiant y ddinas wrth ddenu busnesau gwybodaeth a thechnoleg a busnesau creadigol.

SA1 yn Fyn

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau