Welsh Assembly Government
Dydd Iau 04 Rhagfyr 2008
Cronfa ddata o Eiddo yng Nghymru

Cronfa ddata o Eiddo yng Nghymru

Mae’r gronfa ddata hon ar gael i bob sefydliad sy’n ystyried ehangu neu symud i leoliad newydd, ac mae’n eich galluogi i chwilio a chyfateb eich gofynion â’r dewis eang o safleoedd tir ac eiddo sydd ar gael ledled Cymru.


Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys:

  • Cronfa ddata y gellir ei chwilio o safleoedd a thir masnachol/diwydiannol sy’n cael ei reoli gan WDA a’i brif barnteriaid yn y sector cyhoeddus/preifat yng Nghymru.
  • Y gallu i adolygu gwybodaeth gryno am ddewis eang o eiddo, ac yna fynd ati i astudio’r manylion mwy penodol am rai a ddewisir.
  • I weld, chwilio a chael allbrint o fanylion o’r gronfa ddata eiddo cysylltwch ar y cysylltyn islaw.

     

    Unwaith y byddwch wedi dewis y tir/eiddo o ddiddordeb pwyswch y cysylltyn cysylltu â ni ar y dudalen hon i ganfod mwy am y safleoedd hyn.

    database

     

    Diweddariad e-bost drwy e-bost

    Os hoffech ein hysbysu drwy e-bost cyn gynted â bod manylion safle newydd neu ddiwygiedig ar gael cofrestrwch gyda’n gwasanaeth Diweddariad Eiddo islaw.

     

    Tanysgrifiad i grwp e-bost:
    Nodwch eich cyfeiriad e-bost yma:
    Tanysgrifio i'r grwpiau e-bost canlynol
    Diweddariad Eiddo WDA - eich hysbysu am y datblygiadau diweddaraf ledled y sector eiddo yng Nghymru.

    Bydd y WAG yn cadw cofnod o'ch gwybodaeth gyswllt ar gyfer eich tanysgrifiad i grwp (grwpiau) e-bost. Bydd hyn yn galluogi'r WAG i e-bostio gwybodaeth atoch bob hyn a hyn a all fod o ddiddordeb i chi. Mae modd terfynu'ch tanysgrifiad i'r gwasanaeth hwn unrhyw bryd trwy ddilyn y cyswllt 'terfynu tanysgrifiad' ar y wybodaeth a fydd yn cael ei rhoi. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael eu defnyddio gan y WAG yn unig. Ni fyddant yn cael eu datgelu i sefydliadau nac unigolion y tu allan i'r WAG.

     

    Nodiadau pwysig am y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon:

    1.  Mae’r holl fanylion ar y wefan hon ar gyfer arweiniad cychwynnol yn unig, ac fe’u rhoir heb unrhyw gyfrifoldeb ar ran Awdurdod Datblygu Cymru na’u asiantau neu unrhyw un a gyflogir ganddo.  Ni ddylid dibynnu arnynt gan y gall gwybodaeth fod wedi’i rhoi gan ffynonellau allanol.  Nid ydynt yn osgoi ‘r angen am wneud chwiliadau, ymholiadau, arolygon ac arolygiadau priodol.

    2.  Mae’r holl fanylion ariannol y cyfeirir atynt yn y manylion hyn wedi eu nodi heb gynnwys Treth Ar Werth ac maent yn agored i amrywio.

    3. Nid yw Awdurdod Datblygu Cymru, ei asiantau nac unrhyw un a gyflogir ganddo yn gwneud nac yn cynnig unrhyw sylwadau na gwarant o unrhyw fath mewn perthynas â gwybodaeth ar y wefan hon, ac nid oes gan unrhyw asiant nac unrhyw un a gyflogir ganddo awdurdod i wneud hynny.

    4. Mae’r holl drafodaethau yn amodol ar gontract ffurfiol, a fydd yn cael ei baratoi gan Gyfreithwyr.

    5. Mae gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn destun rheoliadau mewn perthynas â faint o Gymorth y Llywodraeth (Cymorth y Wladwriaeth) y gellir ei gynnig i fuddsoddwyr.  Gwneir cynigion posibl am gymorth yn amodol ar gael eu cadarnhau fel rhai cywir o fewn terfynau’r UE.