Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

ECM2
Ffordd o fyw
*

Wedi’i leoli’n gyfleus rhwng dwy ddinas flaenllaw Cymru - Abertawe i'r Gorllewin a’r brifddinas, Caerdydd, i’r Dwyrain - mae gan Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â gweddill y DU, Ewrop a’r Byd. Lleolir ECM² oddi ar Cyffordd 38 traffordd yr M4, ac fe’i gwasanaethir gan wasanaeth trên cyflymder uchel bob awr o Paddington, Llundain, a chysylltiadau byd-eang rhwydd drwy Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, felly mae’r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer busnes a phleser. Bydd staff sy’n symud i’r ardal leol, sy’n adnabyddus am ei hansawdd bywyd a’i diwylliant, yn gweld bod dewis eang o eiddo preswyl ar gael, gyda phrisiau’n amrywio o lai na £90,000 i fwy na £350,000.

Llluniau o’r chwith i’r dde: Traeth Aberafan, Castell Margam, Dinbych-y-Pysgod

Llluniau o’r chwith i’r dde: Traeth Aberafan, Castell Margam, Dinbych-y-Pysgod

Mae nifer o ddewisiadau hamdden yng Nglyn Nedd hefyd, gyda’i raeadrau ysblennydd, ac ym Mhort Talbot a Dyffryn Afan gydag amrywiaeth eang o barciau gwledig. Ar gyfer y rhai bywiog a heini, mae cyfleusterau cerdded, beicio mynydd, dringo a hwylio i gyd ar gael wrth law, tra bod amrywiaeth o barciau, cestyll, safleoedd hanesyddol, amgueddfeydd, theatrau a sinemâu ar wasgar drwy’r ardal ar gyfer y rhai sy’n dymuno bywyd mwy hamddenol. Lai na 40 munud i ffwrdd mewn car, mae’r ardal o amgylch ECM² yn leoliad delfrydol ar gyfer fforio’r Mynyddoedd Duon a chreigiau garw a childraethau cysgodol Penrhyn Gwyr hefyd.

Am ragor o wybodaeth am yr ardal, ewch i:

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau