

“Mae SA1 yn newyddion da, nid yn unig i Abertawe ond i Dde Cymru gyfan."
"Bydd hyn yn gwneud tipyn i wella barn pobl am Abertawe, ac rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cynulliad Cymru am wneud safiad mentrus ar ddatblygu Abertawe a De Cymru. Mae cyflymder y twf yn gyffrous iawn.”
Martin Morgan,
Entrepreneur
Ynglwn ag SA1 Glannau Abertawe
Nod SA1 Glannau Abertawe yw adeiladu ar boblogrwydd cynyddol Abertawe gan gynnal syniad cryf o gymuned. Gwneir hyn drwy integreiddio’r safle a’r ddinas, a chefnogi datblygiadau sydd eisoes yn bodoli a rhai arfaethedig yn Chwarter Morwrol Glannau Abertawe. Bydd pomprennau’n hanfodol i greu cysylltiadau gweledol, corfforol a swyddogaethol cryf rhwng dwy brif ardal y glannau. Bydd mannau gwyrdd, fel sgwâr cyhoeddus newydd wrth ochr orllewinol y safle, a chelfyddyd gyhoeddus yn cael eu hymgorffori yn y cynllunio er mwyn cynnig amgylchedd bywiog a deniadol i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.
Daw SA1 Glannau Abertawe yn gyrchfan glannau fywiog a deniadol a fydd yn meithrin safon uchel o ddylunio a phensaernïaeth drefol gyda phwyslais ar arloesedd, modernedd a hyblygrwydd. Gwneir y gorau o botensial datblygu’r cynllun drwy gyfuno defnyddio tir ac atebion cynllunio dinesig mewn ffordd sy’n llawn dychymyg. Bydd y datblygiad yn cael ei weithredu fesul cam, a phob cam yn gallu cael ei wasanaethu’n economaidd a’i gwblhau mewn modd hunan-gynhaliol a chynaliadwy. Bydd datblygiadau swyddfa yn canolbwyntio ar swyddfeydd o safon uchel sy’n denu SMEs a chyrff corfforaethol, yn enwedig yn y sector e-fasnach a sectorau sy’n seiliedig ar wybodaeth, a bydd cyfleoedd datblygiad preswyl yn cynnwys nifer fawr o dai wrth y glannau yn bennaf.

