

Yr Is Ganghellor, yr Athro Robin Williams
FRS, UWS
Dinas Abertawe
Prif fantais SA1 Glannau Abertawe dros ailddatblygu dociau eraill yw ei leoliad yng nghanol dinas Abertawe. Os oes un lleoliad sy’n gallu cynnig ansawdd bywyd cyfoethog, Abertawe yw hwnnw. Gyda glan môr, cefn gwlad, pentrefi llawn cymeriad, canol dinas sy’n ffynnu - mae’r tirlun godidog ac amrywiol hwn, ynghyd â’i leoliad ardderchog ar arfordir De Cymru, yn gwneud Abertawe yn arbennig. Mae gan Abertawe boblogaeth o 570,000 o fewn hanner awr o yrru, ac fe’i disgrifiwyd fel ‘mynedfa’ i Orllewin Cymru, gan fod iddi safle strategol yn natblygiad hanesyddol, gwleidyddol ac economaidd Cymru.
Mae Abertawe yn ddinas greadigol fywiog, gyffrous sy’n llawn cerddoriaeth, celf a diwylliant. Mae Abertawe yn ymfalchïo yn ei threftadaeth a’i hysbryd gymunedol a’i phoblogaeth yn cynnwys pobl fentrus gyda syniad cryf o agosrwydd, sydd wedi herio a gorchfygu newid cymdeithasol a diwydiannol enfawr dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae Abertawe hefyd wedi sicrhau enw da fel man dysgu sy’n uchel ei barch, drwy ei Phrifysgol sy’n cynhyrchu graddedigion gyda chymwysterau uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r elfennau hyn yn cyfuno i roi amgylchedd delfrydol ar gyfer busnesau creadigol a mentrus. Bydd SA1 Glannau Abertawe yn ychwanegu at lwyddiant y ddinas wrth ddenu busnesau gwybodaeth a thechnoleg a busnesau creadigol.

