Technium Cystadleuaeth

Y Gystadleuaeth Cynllunio Busnes ar gyfer Busnesau Twf Uchel



Rhowch gynnig ar brif gystadleuaeth cynllunio busnes Cymru.

Mae Cystadleuaeth Technium yn gystadleuaeth cynllunio busnes genedlaethol flynyddol ar gyfer cefnogi busnesau newydd neu fusnesau sy’n bodoli eisoes gyda photensial twf uchel. Mae’r gystadleuaeth yn gynnig rhaglen bwrpasol o gymorth i alluogi busnesau technoleg newydd a rhai’n deillio o sefydliadau addysg i drosglwyddo syniadau i fod yn gynigion busnes masnachol.

Caiff y gystadleuaeth ei rheoli gan Technium, rhwydwaith o ganolfannau arloesi ym maes technoleg sy’n cefnogi busnesau technoleg ifanc yng Nghymru. Gan ddefnyddio arbenigedd partneriaid sector cyhoeddus a phreifat Technium a’i rwydwaith ehangach o fudd-ddeiliaid, gall Cystadleuaeth Technium roi cyngor arbenigol mewn amrediad o ddisgyblaethau a ddefnyddir yn y broses cynllunio busnes. Darperir cyngor yn ddi-dâl ac mae’n cynnwys:-

  • Datblygu Crynodeb Gweithredol
  • Cywair eich Cynnig/Sgiliau Cyflwyno
  • Datblygu Cynllun Busnes Proffesiynol
  • Dadansoddi’r Farchnad ac Ymchwil i’r Farchnad
  • Dadansoddiad Cystadleuol
  • Marchnata a Gwerthiant
  • Adnoddau Dynol
  • Datblygu a Dosbarthu Cynnyrch/Gwasanaeth
  • Allforio
  • Eiddo Hawliau Deallusol
  • Cyngor Cyfreithiol
  • Cyfrifeg/Rhagamcaniadau Ariannol
  • Ariannu Cynllun Busnes
  • Strategaethau Tymor-Hir/Rheoli Twf Uchel
  • Mae Cystadleuaeth Technium yn croesawu ymgeiswyr o Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

    Os ydych yn seiliedig o fewn y Deyrnas Unedig, cliciwch ar y cysylltyn dilynol:-
    Cystadleuaeth Technium (Cymru/DU)

    Os ydych yn seiliedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cliciwch ar y cysylltyn dilynol:-
    Cystadleuaeth Technium (Rhyngwladol)