ENW'R CWMNI :CYDEN LIMITED
FFON:01792 485755
FACS:01792 485524
CYFEIRIAD E-BOST:general@cyden.co.uk
CYSWLLT:Kevin Smith

PROFFIL Y CWMNI:

Ffurfiwyd CyDen yn 2002 i fanteisio ar wybodaeth y sefydlwyr am therapi optegol yn y meysydd gofal iechyd a chosmetig. Mae gan sefydlwyr y Cwmni brofiad sylweddol yn y maes technoleg meddygol a chosmetig a hanes a brofwyd o gyflwyno cynnyrch arloesol a chymwysiadau newydd.                                           

Mae CyDen wedi datblygu a bydd yn gweithgynhyrchu cynnyrch Fflach Lamp Gryf (IFLTM) cost isel ar gyfer y marchnadoedd dermatoleg a gofal croen, yn benodol gwaredu gwallt, adfywio croen ac acne. Bydd y cynnyrch hwn yn rhoi sylw i gyfyngiadau y dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd, yn enwedig y costau offer cyfalaf gymharol uchel sy’n atal ymdreiddio’r farchnad. I gychwyn, caiff yr ILF ei dargedu ar gyfer gwaredu gwallt, adfywio croen ac acne.

Mae’r prif fuddion yn cynnwys:

  • Cost Mynediad i’r Farchnad - Mae’r pris adwerthu disgwyledig yn 50% y systemau sydd ar gael ar hyn o bryd;
  • Dyfais “Plwg a Chwarae” - dim angen gosodiad cymhleth. Defnyddiwr yn gosod y ddyfais;
  • Cludadwy - mae maint a phwysau’r IFL yn golygu bod modd cludo’r dyfais rhwng swyddfeydd neu glinigau;                                              
  • Dim system oeri dwr gymhleth y mae angen ei chynnal a’i chadw;                 
  • Uned bwer foltedd isel, diogel yn erbyn cystadleuaeth foltedd uchel;
  • Triniaeth isafol - nid oes angen unrhyw driniaeth ar y safle, gellir dosbarthu unedau disodli dros nos. Mae amser segur isafol yn sicrhau’r defnydd mwyaf o nwyddau traul;
  • Cost driniaeth isel - mae cymhariaeth lawn yn erbyn systemau cystadleuol yn dangos bod y gost driniaeth yn sylweddol is gyda’r IFL na chymwysiadau Golau Curiadau Cryf  (IPL)
  •