ENW'R CWMNI:ENFIS CYFYNGEDIG
FFON:01792 485660
FACS:01792 485537
CYFEIRIAD E-BOST:
info@enfis.com
GWEFAN:www.enfis.com
CYSWLLT:
Shaun Oxenham

PROFIL Y CWMNI:

Mae Enfis Cyf yn arweinydd ym meysydd dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu systemau ffynonellau golau Deuodau Allyrru Golau (LED) pwer uchel deallus. Mae cynnyrch y cwmni'n cyfuno manteision niferus yr LED fel ffynhonnell golau â'n technoleg reolaeth thermol â phatent ar ddod, i'w defnyddio gan nifer o gymwysiadau heriol, twf uchel. Caiff ein technolegau pecynnau pwer LED arloesol eu hintegreiddio â systemau er mwyn darparu golau lle bo'i angen mewn modd dibynadwy, a rheoladwy.

Ar hyn o bryd, mae Enfis yn gweithredu pedwar prif faes busnes:  Systemau Meddygol, gan gynnwys dyfeisiau trin y croen, Systemau Diwydiannol, Systemau i Ddefnyddwyr yn y cartref, gan gynnwys dyfeisiau gofal iechyd yn y cartref a Modiwlau Goleuwyr LED. Caiff buddsoddiad Enfis ym maes ymchwil a datblygu ei adlewyrchu yn ei bortffolio o eiddo deallusol, ag iddo dros 10 patent ar ddod. Gellir cymhwyso eiddo deallusol Enfis i lawer o agweddau ar systemau technoleg LED, o ddulliau o drin y croen drwy ddefnyddio LED, i dechnolegau optegol a rheoli thermol newydd.

Sefydlwyd Enfis yn 2001 ac mae'n deillio o Brifysgol Abertawe, ag iddi hanes hir o arloesi ym maes ymdrin â dyfeisiau pwer ac agweddau ar reoli thermol dyfeisiau o'r fath.

Mae pencadlys Enfis yn y DU, ac mae'n cael ei gyllido'n bennaf gan y cwmni cyfalaf mentro Wesley Clover Corporation y mae Syr Terry Matthews, sefydlwr Mitel a Newbridge Networks, yn gadeirydd arno.

Mae Enfis wedi ymrwymo i bob agwedd ar Reoli Ansawdd ac enillodd achrediad ISO9001 yn 2004. Yn ogystal, enillodd Enfis yr achrediad dyfeisiau meddygol QMS ISO13485:2003 eto yn 2004.