ENW'R CWMNI:INNOVATION 2 MARKET LIMITED
FFON:01792 485522
FACS:01792 485524
CYFEIRIAD E-BOST:sales@i2m-uk.com
GWEFAN:www.i2m-uk.com
CYSWLLT:Kevin Smith


PROFFIL Y CWMNI: 

Sefydlwyd I2M ym mis Awst 2000 i gyflwyno nifer o amcanion allweddol:            

Masnacheiddio Hawliau Eiddo Deallusol (IPR) Caffaeledig      
Mae gan y cwmni batent byd-eang ar gyfer marcio deunyddiau adlewyrchol yn gudd gyda laser a patent UDA sy’n seiliedig ar dechnoleg RFID. Mae gan y ddwy dechnoleg gymwysiadau mewn amddiffyn brand byd-eang a diogeledd adwerthu, sef marchnad sawl biliwn doler. Mae’r technolegau hyn yn amodol ar weithgareddau trwyddedu yn Ewrop a’r UDA.                         

Masnacheiddio Hawliau Eiddo Deallusol (IPR) Trwyddedig       
Mae gan y cwmni drwyddedau ar gyfer technolegau laser isarwynebol i ategu’r IP sy’n berchen iddo. Defnyddir y dechnoleg hon ar gyfer cymwysiadau diogeledd ac addurno mewn cynnyrch gwydr.

Masnacheiddio Technolegau Newydd

  • Datblygu a Masnacheiddio Technoleg Newydd
  • Nodi a Masnacheiddio Technoleg Newydd   
  • Cefnogi sgil-weithgaredd yn seiliedig ar ddatblygiad IP Academaidd
  • Arweiniodd y gweithgaredd at ffurfio:

  • Micro Heat Limited
  • CyDen Limited
  • Ymgynghoriaeth

    Ymgynghoriaeth reoli yn cefnogi datblygu economi a yrrir gan wybodaeth yng Nghymru. Mae I2M wedi gweithio’n helaeth ar brosiectau mewn meysydd mor amrywiol â Nano a microsystemau a dyframaethu ar lefel datblygu strategol.