ENW'R CWMNI:

MOBILE COMPUTING SYSTEMS LIMITED

FFON:01792 485750
FACS:01792 485749
CYFEIRIAD E-BOST:enquiries@mobilecomputing.uk.net
GWEFAN:www.mobilecomputing.uk.net
CYSWLLT:Nick Regan (Rheolydd Gyfarwyddydd)


PROFFIL Y CWMNI:

Mae Mobile Computing Systems Cyfyngedig yn gwmni peirianneg meddalwedd ac integreiddio systemau sy’n arbenigo mewn dylunio, datblygu a chynnal a chadw systemau gwybodaeth busnes.

Rydym yn chwyldroi prosesau busnesau yn defnyddio technoleg cyfrifiadureg symudol, gan arwain at ddefnydd mwy effeithiol o amser, prosesau gweithio haws a chynhyrchu mesuriadau manwl gywir a rheolaeth.

Beth sy’n ein gwneud yn wahanol?

Rydym yn deall Technoleg Gwybodaeth. Mae ein hanes o brofiad yn dod â phopeth ynghyd i greu datrysiadau grymus sy’n iawn i’ch busnes.

Rydym yn siarad eich iaith. Drwy ddeall eich gweithgaredd busnes a’ch disgwyliadau yn llawn o’r cychwyn cyntaf, fe’ch helpwn i ddynodi cerrig milltir allweddol y prosiect i’w gadw ar y llwybr. Mae’r cyfan yn eich helpu i gyfiawnhau’r buddsoddiad yn nhermau cost datblygu a gwir werth busnes.

Byddwn yn gweithio gyda chi. Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cwmnïau wrth gyflwyno technoleg newydd yw derbyn newidiadau yn yr amgylchedd gwaith ac arferion busnes. Anogwn ymgyfraniad defnyddwyr yn ystod prosiectau datblygu meddalwedd drwy siarad gyda’ch staff a gweithredu ar yr hyn y glywn.

Gwarantwn eich cyllideb datblygu a defnyddio. Cymerwn gyfrifoldeb llawn am unrhyw or-rediad mewn amserlen prosiect neu gostau.

Mae Mobile Computing Systems yn cynnig dynesiad proffesiynol at wasanaethau datblygu meddalwedd. Rydym yn ymroddedig i ddatblygu busnesau sy’n ychwanegu gwerth i’ch busnes gyda dychweliad cyflym ar fuddsoddiad.

Gan arwain y maes mewn datblygu defnyddiau symudol a systemau pwynt gweithgaredd, mae ein profiad yn golygu ein bod wedi integreiddio systemau symudol yn llwyddiannus mewn llawer o sectorau.

Sut y gall cyfrifiadureg symudol fod o fudd i fy nghwmni?

Gall Mobile Computing Systems Cyf eich helpu i ffocysu a datblygu eich gofynion cyfrifiadureg symudol arbenigol, p’un a yw hynny yn gyflenwi negeseuon, e-bost neu fewnrwyd i ddefnyddwyr symudol o bell, ehangu cwmpas rhaglen feddalwedd bresennol i sicrhau gallu symudol neu ddatblygu rhaglen pwynt gweithgaredd penodol yn llawn.