ENW'R CWMNI:RAP INTERNATIONAL
FFON:01792 485641
FACS:01792 485650
CYFEIRIAD E-BOST: mark.carter@rap-international.com
GWEFAN: www.rap-international.com
CYSWLLT:Mark Carter


PROFFIL Y CWMNI:

Mae ail-leoli gwaith gweithgynhyrchu o’r DU i wledydd eraill wedi achosi problemau o ran trosglwyddo gwybodaeth a chydymffurfiaeth. Mae hyn yn arbennig o wir am gwmnïau sy’n gweithio yn y sectorau olew a phetrocemegol lle mae gweithio’n ddiogel yn hollbwysig.

Mae RAP International wedi pontio’r bwlch drwy goladu sail wybodaeth gynhwysfawr o allu diogelwch Prydeinig, gan ei threfnu mewn ffordd ddyfeisgar a chlir a’i darparu i ddefnyddwyr mewn ffordd syml a sythweledol. Yna rydym ni wedi cyfieithu’r sail wybodaeth hon i wahanol ieithoedd yn y fath ffordd y gall yr asesiadau risg canlynol gael eu cynnal mewn unrhyw iaith, a’u darllen a’u deall mewn iaith arall.

Mae’r cynnyrch wedi profi i fod o ddiddordeb arbennig i gwmnïau gyda sail gweithgynhyrchu a ddosberthir yn fyd eang sydd angen sicrhau bod staff ym mhob cwr o’r byd yn deall dulliau gwaith y cwmni a fydd yn eu cadw’n ddiogel.

Rydym ni eisoes wedi cyfieithu ein system i Tseinëeg ac Almaeneg ac rydym ni wrthi’n ei chyfieithu i Fflemineg, Groeg ac Eidaleg. Rydym ni’n dechrau ar brosiect ar hyn o bryd gydag un cleient a ddylai arwain at gyflwyno ein cynnyrch a’n gwasanaethau mewn 44 o wledydd ac mewn 17 o ieithoedd ledled y byd.

Mae 12 ohonom yn y cwmni i gyd, pob un ohonom yn cyfrannu graddau gwahanol o arbenigedd cynnal a chadw, diogelwch a rhaglennu. Rydym wedi bod yn gweithio ers 10 mlynedd ac yn ddiweddar symudom ni i Technium 2 i fanteisio ar y cyfleusterau rhagorol sydd yno i’n helpu i fasnachu â chleientiaid ym mhob cwr o’r byd.