ENW'R CWMNI:

S8080 LIMITED

FFON:01792 485566
FACS:01792 485577
CYFEIRIAD E-BOST:info@s8080.com
GWEFAN:www.s8080.com
CYSWLLT:Matt Howard


PROFFIL Y CWMNI:

  • Dylunio Rhyngweithiol
  • Datblygiad Gwe
  • Dylunio ac Argraffu
  • Mae S8080 yn dyfeisio, yn dylunio ac yn gweithredu cyfathrebiadau ein cleientiaid drwy gyfryngau digidol a phrint. Syniadau creadigol cryf sy’n gweithio.

    POBL
    Mae gan S8080 sylfaen o gynllunwyr, dylunwyr, braslunwyr, artistiaid, rhaglenwyr a datblygwyr gwe sydd wir yn mwynhau gwthio’r ffiniau creadigol a thechnegol. Rydym ni’n ymfalchïo (ac yn cael pleser) mewn datblygu datrysiadau arloesol i faterion cymhleth.

    Mae ein tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol hapus, hyblyg a chreadigol o gefndiroedd a phrofiad (ac, mewn rhai achosion, planedau) gwahanol sy’n gweithio’n galed i wireddu potensial S8080. Rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar lyfnhau llwybr y cleient.

    PROSES
    O ddeall eich sefydliad, hyd at gwblhau, mae S8080 yn rhannu gyda’n cleientiaid yr ymagweddau sy’n cydymffurfio orau â’ch cyllideb, eich sefyllfa, eich adnoddau a’ch strategaeth. Caiff y cleient ei gynnwys bob cam o’r ffordd fel eich bod chi’n deall yn union yr hyn rydych chi’n ei gael a pha bryd.

    Byddwn ni’n gofyn llawer o gwestiynau ac yn disgwyl atebion gonest. Rydym ni’n credu, os ydych chi eisiau’r canlyniadau y gallwn ni eu cyflawni, y byddwch chi’n barod i dreulio’r amser i ddod i ateb.

    Tryloywder yw’r allwedd. Nid ydym yn cuddio y tu ôl i jargon marchnata neu gymhlethdod technegol. O’n cynnig cychwynnol a’n strwythur prisio hyd at fanyleb y prosiect a’r ddogfennaeth derfynol - mae popeth wedi’i ysgrifennu’n glir.

    Mae rheolwr prosiect penodedig yn cynnal yr holl gyfathrebu hanfodol rhwng y cleient a thimau creadigol a datblygiad S8080, gan sicrhau y caiff prosiectau eu cynnal yn ddi-ffwdan a’u cyflwyno’n brydlon. Fodd bynnag, os byddwch chi eisiau siarad yn uniongyrchol â’r cyfarwyddwr creadigol neu eich rhaglennwr, mae’n hawdd gwneud hynny. Mae S8080 yn defnyddio ymagwedd rheoli prosiect ar sail Prince 2 a ni oedd yr asiantaeth cyfryngau digidol gyntaf yng Nghymru i ennill tystysgrif ansawdd BS EN ISO 9001:2000.

    LLEOLIAD
    Mae ein stiwdio cynllun agored wedi’i leoli yn yr adeilad Technium newydd yn Abertawe yn natblygiad Glannau Abertawe SA1. Byddai’n anodd dod o hyd i olygfa fwy ysbrydoledig na’r un a geir o’n stiwdio, yn edrych dros ddatblygiad marina’r ddinas.

    O fewn cyrraedd yn hawdd i rwydweithiau ffyrdd a rheilffordd, caiff ein hymwelwyr groeso cyfeillgar bob amser. Wrth gwrs, i’r cwsmeriaid hynny sy’n bellach i ffwrdd, mae’r rhyngrwyd yn galluogi lefel o gyfathrebu sydd prin gam i ffwrdd o gyfathrebu wyneb yn wyneb ac mae un cip ar ein rhestr gleientiaid, yn enwedig yn UDA, yn dystiolaeth o hyn.

    Pobl ddymunol yn gwneud gwaith da... nid gwyddoniaeth roced mohono

    Prif nodweddion gwaith S8080 yw:
    •  Sylw obsesiynol i fanylion mewn dylunio graffeg, defnyddiadwyedd, hygyrchedd a gweithrediad technegol
    •  Gwasanaeth cwsmeriaid chwedlonol - hanes o greu perthnasoedd tymor hir gyda phob un o’n cleientiaid
    •  Didwyll yn ein trafodion - cynigion clir, siarad di flewyn ar dafod a dim sioc pan ddaw’r anfoneb
    •  Dadansoddiad manwl o anghenion, cyngor ar dechnolegau cyfredol a rhai’r dyfodol y gellir eu defnyddio i fodloni gofynion y cleient yn y ffordd fwyaf effeithlon a phriodol
    •  Diffiniad manwl o sgôp, cost a graddfeydd amser ar gyfer cyflwyno unrhyw waith a gomisiynir, cyn ei weithredu
    •  Dylunio graffeg arloesol, a ddefnyddir gan gwmnïau o’r radd flaenaf ac asiantaethau llywodraeth ledled y byd
    •  Gweithredu technegol effeithiol yn cwmpasu’r holl dechnolegau cyfredol - o html syml, i Flash rhyngweithiol, yr holl ffordd i safleoedd a lywir gan gronfeydd data gyda swyddogaeth e-fasnach, rheoli cynnwys a chyfleusterau chwilio
    •  Cefnogaeth dechnegol lawn a chynnal a chadw/diweddariadau parhaus
    •  Gwneir yr holl waith creadigol a thechnegol mewnol yn unol â safonau ansawdd BS EN ISO 9001:2000
    •  Hygyrchedd - gwybodaeth fanwl am, a phrofiad estynedig o, lynu at set gyfredol canllawiau cyhoeddi’r Llywodraeth i WAI- AAA
    •  Profiad helaeth o ran creu gwefannau, cymwysiadau meddalwedd a dogfennaeth amlieithog
    •  Gwerth am arian, heb unrhyw dechnoleg neu ymdrech gormodol yn cael eu defnyddio lle y byddai’n gorgymhlethu’r datrysiad

    Mae cleientiaid S8080 yn cynnwys
     
    • ACAS
    • British Airways Cargo
    • Clarks Shoes
    • COI Communications
    • Adran Diwydiant a Masnach
    • Adran Gwaith a Phensiynau
    • George Wimpey
    • The Grammy Awards
    • Swyddfa Cabinet EM
    • Awdurdod Parc Rhanbarthol Lee Valley
    • Mates Condoms
    • Partneriaeth Camerâu Diogelwch Canolbarth a De Cymru
    • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
    • Heddlu De Cymru
    • Tesco
    • 20th Century Fox
    • Virgin Trains
    • Bwrdd Croeso Cymru
    • Llywodraeth Cynulliad Cymru
    • Awdurdod Datblygu Cymru