![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() ![]()
Gall y tîm Technium Peirianneg Perfformiad hwyluso cyflwyniadau i sefydliadau academaidd a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil ledled Cymru. Gall cwmnïau hefyd gael mynediad i gymorth technegol arbenigol gan staff ymchwil a datblygu Technium.
Mae swyddogaeth bartneriaeth Prifysgol Abertawe yn y Technium yn sicrhau y gall cwmnïau elwa ar arbenigedd academaidd ei Hysgol Beirianneg lwyddiannus. Mae’r Brifysgol yn annog busnesau i gynllunio a datblygu i safon fyd-eang ac yn cynorthwyo i droi cynhyrchion a phrosesau newydd yn rhai masnachol. |
|
|
![]() |
|||