ENW CWMNI  :CONNAUGHT ENGINEERING
FFÔN:01554 748820
CYFEIRIAD E-BOST

:info@connaughtengineering.com
:info@connaughtmotorco.com 

GWEFAN    

:www.connaughtmotorco.com
:www.connaughtengineering.com

CYSWLLT   :Tony Martindale
  

PROFFIL CWMNI:

Ers Ebrill 2007, mae staff rheoli, ymchwil, dylunio a datblygu dau “gydgwmni” Connaught wedi’u lleoli ar safle Technium Performance Engineering yn Llanelli, De Cymru.

Sefydlwyd Connaught Motor Company yn 2002 i ddatblygu sbortscar coupe pedair sedd ar gyfer y  “person deallus” gyda’r pwyslais ar dechnoleg uwch a  phrofedig, syn perfformio’n uchel, yn gar eithriadol a hwylus i’w yrru a’i drafod (ac yn gyfforddus iawn ar yr un pryd), ac mor ysgafn â phosibl.

Yn ystod y camau dylunio a datblygu, bu tîm Connaught yn edrych ar wahanol opsiynau “hybrid” ar gyfer car modern, yn perthyn i’r genhedlaeth newydd ac yn perfformio’n dda. Fodd bynnag, nid yw’r batris mawr a thrwm sy’n nodweddu technoleg hybrid gonfensiynol yn eu cynnig eu hunain i berfformiad da, a byddai’r rhain yn negyddu unrhyw ymdrech i arbed pwysau, sydd yr un mor bwysig o ran economi ag ydyw o ran perfformiad.

Ac felly fe ddatblygodd y peirianwyr y system HYBRID+ dan batent, sy’n storio’r ynni sy’n cael ei atgynhyrchu (ynni brecio) mewn uwch-gynwysorau, gan osgoi colli perfformiad oherwydd pwysau’r pecynnau batri.
 
O hyn fe ddeilliodd dau gar; y Connaught Type-D GT, sy’n gerbyd uchel-berfformiad, ysgafn, gyda’r tra-chywasgwr V10 newydd, a hefyd y Connaught Type-Dh sydd â’r un injan, sy’n allsugno’n normal, a’r system HYBRID+ wedi’i deilwrio’n benodol er mwyn perfformio mor ddiwastraff â phosib, gan ollwng cyn lleied o CO2 â phosibl.

Gan i’r system HYBRID+ a ddatblygwyd ar gyfer y car fod mor effeithiol, sefydlwyd ail chwaer-gwmni, Connaught Engineering Ltd i ddefnyddio’r dechnoleg,  ar gyfer Cerbydau Masnachol Ysgafn (ee faniau Transit) yn y lle cyntaf, ond yn y pen draw ar gyfer cerbydau masgynnyrch eraill - tacsis, bysiau, tryciau trwm ac yn y blaen. 

Bydd y system yn cael ei gosod ar y fflyd o gerbydau cludo Tesco.com o Chwefror 2008 ymlaen, a dyfarnwyd gwobr “East” i bartneriaeth Tesco/Connaught ym Medi eleni.

Mae amryw o gwmnïau fflyd a chwmnïau prydlesu cerbydau fflyd hefyd wedi ymrwymo gyda Connaught Engineering Ltd i gael gosod y system HYBRID+  pwysau ysgafn a chost isel ar eu cerbydau, gan arbed tanwydd a gollwng llai o CO2.

Mae Connaught yn cyflogi 25 o staff ar hyn o bryd yng Nghanolfan Technium, ac yn ehangu’n barhaus er mwyn cadw’n gyfochrog â’r galw am y car a fydd ar gael yn 2008, ac am y system HYBRID+.