|
|
||||||||||||||
![]() |
|
|||||||||||||
![]() |
||||||||||||||
|
![]()
PROFFIL CWMNI: Sefydlwyd Sigma yn 2001 a’r cwmni yw prif ddarparwr gwasanaethau allanol o ran rheoli cadwyn gyflenwi a gweithgynhyrchu cyfarpar gwreiddiol i’r diwydiant ceir. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan Sigma yn cwmpasu’r holl broses weithgynhyrchu, o lansio hyd at warant derfynol. Mae timau Sigma yn palu’n ddwfn i weithgareddau ac arferion gweithio ei gwsmeriaid, gan bennu costau na ellir mo’u rheoli a meysydd posib ar gyfer gwella, cyn cyflwyno atebion. Mae llwyddiant Sigma yn y maes hwn wedi galluogi’r cwmni i feithrin tîm rhyngwladol yn cynnwys dros 500 o bobl. Mae Pencadlys Sigma yn Coventry, Lloegr, ond mae gan y cwmni hefyd swyddfeydd ychwanegol a changhennau cyfathrebu ledled Ewrop ac UDA. Sefydlwyd Sigma Wales Ltd yn ddiweddar yn Technium Peirianneg Perfformiad, Porth Llanelli. Mae’r tîm ymchwil a datblygu a leolir yma yn gweithio’n agos iawn â Phrifysgol Abertawe ac maent ar flaen y gad o ran datblygu prosesau busnes arloesol er mwyn cynyddu cynhyrchedd ac effeithiolrwydd yn y diwydiant cerbydau yn ei gyfanrwydd. |
|
||||||||||||
|
||||||||||||||