![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() Mae Technium Peirianneg Perfformiad yn elwa ar fod yn rhan o rwydwaith ehangach Technium sy’n darparu cyfarpar a chyfleusterau arbenigol ategol i gwmnïau. Er enghraifft:-
Technium Digidol ![]() Mae Technium Digidol, sydd wedi’i leoli ar gampws Prifysgol Abertawe, yn cynnwys stiwdio rhith-wirionedd y gellir ei defnyddio ar gyfer cymwysiadau modurol ac awyrofod. Mae’r stiwdio’n galluogi cwmnïau i ddadansoddi data amser real yn rhyngweithiol mewn amgylchedd rhithwir a phrototeipio cynhyrchion yn gyflym iawn o gymharu â dulliau prototeipio confensiynol. Mae Technium Digidol hefyd yn cynnwys labordy profion electronig Agilent a ddefnyddir i gynllunio a phrofi systemau cyfathrebu electronig perfformiad uchel. Technium Digidol@Sony ![]() Technium Digidol@Sony yng Nghanolfan Dechnoleg y DU Sony ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Sony yn cynnig pecynnau pwrpasol i gwmnïau Technium, gan gynnwys amrywiaeth lawn o gyngor a gwasanaethau mewn perthynas â chynhyrchu dyfeisiau digidol. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys cynllunio mecanyddol, electronig a thrydanol, cynhyrchu byrddau cylchred, gosod a phrofi cynnyrch, cymeradwyo cynnyrch i safonau rhyngwladol, warysau a dosbarthu a gwasanaeth ar ôl gwerthu. |
|
|
![]() |
|||