Mae Technium Peirianneg Perfformiad yn annog perthynas waith gref gyda mentrau diwydiannol eraill ledled Cymru fel:-

Menter Chwaraeon Moduro Rali GB Cymru
Rali GB Cymru (a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) yw cymal y DU o Bencampwriaeth Rali’r Byd ac mae’n ganolbwynt cyffrous ar gyfer Technium Peirianneg Perfformiad ym maes chwaraeon moduro. Mae’r Fenter Chwaraeon Moduro’n canolbwyntio ar ddatblygu chwaraeon moduro a pheirianneg perfformiad yng Nghymru a helpu cwmnïau i dyfu a datblygu’r sgiliau a’r technolegau sydd eu hangen.

ECM² (Canolfan Beirianneg ar gyfer Gweithgynhyrchu a Deunyddiau)
Mae ECM², cyfleuster 100,000 metr sgwâr a leolir wrth ymyl cyffordd 38 traffordd yr M4, yn cynorthwyo cwmnïau i droi cynlluniau’n brototeipiau ac yn rhannau gosod. Mae ECM² yn cynnig gofod labordy yn ogystal â nifer o weithleoedd uchel sy’n addas ar gyfer gweithgareddau ar raddfa fawr. Mae’r cyfleuster hefyd yn cynnwys Hydroffurfydd Anton Bauer ac efelychydd galfaneiddio dipiau poeth. Mae cwmnïau sydd eisoes ar y safle’n cynnig gwasanaethau profi dadansoddol a mecanyddol, gweithdy peirianneg â’r holl gyfarpar angenrheidiol a chyfleusterau cynllunio cysylltiedig.

Fforwm Electroneg Cymru
Mae Fforwm Electroneg Cymru’n darparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr ac yn cynrychioli llais y diwydiant electroneg yng Nghymru. 

Accelerate Cymru
Rhaglen sy’n gweithredu gyda’r nod o wella cadwyn gyflenwi’r sector modurol yng Nghymru yw Accelerate Cymru. Mae’n darparu’r adnoddau rheoli prosiect ar gyfer yr holl weithgareddau gwella yn y cwmni arwain a’r gadwyn gyflenwi.