Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin

Y Llwybr Caws

Mae pobl wedi bod yn gwneud caws yng Nghymru ers canrifoedd. Roedd y cawsiau cynnar yn debyg i gaws enwog Caerffili ac yn cael eu mwydo mewn dwr halen. Roedd y caws hwn yn cael ei ddefnyddio fel rhan o setliad ysgariad o dan ddeddfau Hywel Dda. Credir mai'r wraig oedd yn cael y caws mewn dwr halen a'r gwr yn cael y caws oedd wedi'i hongian.
Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, dechreuodd llaeth buwch gymryd lle llaeth gafr a llaeth dafad. Ceir cofnodion sy'n dangos bod rhai defaid yn dal i gael eu godro yn yr 20fed ganrif. Roedd y llaeth hwn yn cael ei gymysgu â llaeth buwch y tynnwyd yr hufen oddi arno i wneud menyn ac felly roedd y caws yn well i'w fwyta.

Yn ystod rhyfel 1939-45 ac am rai blynyddoedd wedyn, gwaharddwyd gwneud caws Caerffili. Ni chaniatawyd ond rhai cynhyrchwyr caws i'w contractio i wneud caws Cheddar, caws Caer a chaws Sir Gaerhirfryn o dan gynllun y 'Farmhouse Cheesemakers Scheme' gan Fwrdd Marchnata Llaeth Cymru a Lloegr. Roedd y rhan fwyaf o'r cynhyrchwyr hyn yn Lloegr ond roedd rhai'n gwneud Caws Caer yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Roedd yr holl gaws a wnaed o dan y cynllun hwn yn cael ei raddio a'i werthu trwy gyflenwyr arbennig. Roedd trefniadau arbennig ar gyfer cynhyrchwyr a oedd yn dymuno gwneud caws Caerffili a Double Gloucester.

Daeth y 'Farmhouse Cheesemakers Scheme' i ben yng Nghymru a Lloegr ym 1987 a chyflwynwyd trefniadau newydd a oedd yn ei gwneud yn haws gwneud a gwerthu caws ffermdy. Cyflwynwyd cynllun cwotâu llaeth yn y Gymuned Ewropeaidd ym 1984 a bu hyn yn hwb i nifer o ffermydd ddefnyddio'r llaeth oedd ganddynt dros ben i wneud caws ffermdy.

Ar un cyfnod, roedd llawer o laeth o ffermydd Cymru yn cael ei anfon ar y trên i Lundain. Yna, manteisiwyd ar y cyfle i ddatblygu technolegau newydd yn hufenfeydd Cymru ac roedd llawer ohonynt ymhlith y cyntaf ym Mhrydain. Cafodd ffatri CWS yng Nghorwen yr offer BelSiro cyntaf ym Mhrydain - a ddaeth o Awstralia. Ym 1971, adeiladwyd y gyntaf o'r genhedlaeth newydd o unedau mecanyddol i wneud caws yng Nghastellnewydd Emlyn a gosodwyd gweisg caws a blychau aeddfedu oedd yn dal tunnell o gaws yn Johnstown. Agorwyd hufenfa newydd ym Maelor ym 1977 a rhoddwyd y gorau i gynhyrchu caws yno ym 1993, gan ganolbwyntio ar bacio caws. Caewyd nifer o hufenfeydd ond mae'r rhai sydd ar ôl yn cynhyrchu caws o safon uchel iawn sy'n cael ei werthu i bob rhan o'r byd.

Ceir gwneuthurwyr caws bach a mawr yn y Canolbarth ac oddi yno y daw Pencampwr Pencampwyr Prydain yn y maes. Bu nifer o wneuthurwyr caws arloesol yn Nwyrain Cymru hefyd. Yn y Fenni y gwneir rhai o gawsiau mwyaf adnabyddus Cymru ac erbyn hyn mae caws Caerffili yn cael ei gynhyrchu eto yn y dref a roddodd ei enw iddo, ar ôl absenoldeb o flynyddoedd lawer. Mae gan y Gogledd, a Phen Llyn yn arbennig, enw da am gynhyrchu caws.