Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion

Golwg ar Fwyd Cymru - Ebrill

Y Pasg

Gyda dyfodiad mis Ebrill mae cefn gwlad yn dechrau glasu. Mae'r dail yn gwthio'u ffordd o'r blagur ar y coed, blodau gwyllt yn garped ar lawr yn y caeau a'r coedlannau a'r daffodils yn codi ein calonnau yn y gerddi. Mae'r dydd yn ymestyn a'r haf ar ei ffordd - ond gall tywydd oer annisgwyl achosi anhrefn i arddwyr.

Ym mis Ebrill y daw'r Pasg fel rheol a dyma wledd draddodiadol gyntaf y flwyddyn. Yn y Canol Oesoedd, dyma'r cyfnod pryd yr oedd y pererinion yn cychwyn ar eu taith i fannau cysegredig fel Ynys Enlli a'r beirdd yn ymweld â phlasau Cymru. Ar ôl deugain niwrnod y Grawys, roedd gwleddoedd y Pasg yn amheuthun a byddai'r byrddau'n drymlwythog o dan gig carw ac adar gwyllt fel y crëyr a'r alarch.

Erbyn heddiw, er bod digonedd o gywion ieir ar gael gan ein cigyddion trwy'r flwyddyn, mae ffowlyn yn dal i gael ei fwyta ar achlysuron arbennig. Mae blas ardderchog ar ffowls buarth go iawn, sy'n bwyta bwydydd naturiol ac organig. Mae'r ieir yn treulio'u diwrnod yn chwilio am fwyd ac mae ansawdd a blas gwell i rai sy'n cael crwydro fel y mynnant. Ychydig o ymarfer corff a gaiff ieir sy'n cael eu magu'n ddwys a rhoddir bwyd sydd wedi'i brosesu iddynt. Mae hyn yn golygu nad yw ansawdd y cig cystal a'i fod braidd yn ddi-flas.

Graddio cywion ieir

Caiff cywion ieir eu graddio yn ôl eu maint. Mae'r ieir mwyaf poblogaidd yn pwyso 3-4 pwys (1.4-1.8kg). Nid ydynt yn rhy gostus i'w cynhyrchu ac yn rhoi digon o gig i bedwar o bobl. Mae adar mwy o faint, 6-7 pwys (2.75- 3kg), yn hyn ac mae mwy o flas arnynt. Tua phwys (450g) neu bwys a hanner (750g) yw adar bach fel cywen (poussin), sy'n ddigon i un neu ddau.

Caiff cywion ieir eu dosbarthu hefyd gan nodi a ydynt yn rhai buarth, yn rhai organig neu a ydynt wedi'u bwydo â chorn. Yn Ffrainc, gall yr ardal y dônt ohoni fod yn bwysig ac mae rhai bridiau'n fwy poblogaidd na'i gilydd. Yng Nghymru, mae nifer cynyddol o gynhyrchwyr cywion ieir buarth a rhai organig yn magu ffowls yn y ffordd draddodiadol. Mae bwytai a chigyddion da yn awyddus iawn i brynu'r rhain.

Mae cigyddion Langfields yn y Trallwng yn gwerthu cywion ieir buarth yn eu neuadd fwyd ardderchog. Mae gan Graig Farm Organics nifer o gyflenwyr organig ar gyfer eu cwsmeriaid niferus. Dyna yw sefyllfa Welsh Hook Organics yn Sir Benfro hefyd. Mae ffowls buarth o fferm Rhos-y-mynydd yng Nghwm Tawe yn cael eu gwerthu mewn nifer o farchnadoedd ffermwyr ac mae llwyth yn mynd i Lundain ddwywaith yr wythnos. Mae Rhosmynydd yn cynhyrchu ffowls o bob maint, hwyaid, twrcwns a gwyddau. Gellir prynu dofednod buarth ac organig ym mhob marchnad ffermwyr.

John Langfield, 4 Berriew Street, Welshpool
Powys SY21 7AD
Ffôn: 01938 552331
www.langfords-foodhall.co.uk

Graig farm Organics, Dolau, Llandrindod
Ffôn: 01957 851655
www.graigfarm.co.uk
e-bost: sales@graigfarm.co.uk

Welsh Hook Meats, Woodfield, Hwlffordd,
Sir Benfro SA62 4BW
Ffôn: 01437 768876
www.welsh-organic-meat.co.uk
e-bost: www.chickenstuff.co.uk
e-bost: rhosmynydd@aol.com

Mountain Rose, Rhos-y-mynydd Farm, Heol Hir,
Gwauncaegurwen, SA18 1PL
Tel: 01269 824952

Coginio cyw iâr

Mae cyw iâr yn fwyd poblogaidd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd. Fe'i ceir mewn paella, tandoori, chop suey, coq au vin, waterzootje a chinio dydd Sul. Mae ffowlyn rhost traddodiadol yn addas iawn ar gyfer dydd gwyl. Gellir ychwanegu at flas y cig trwy ddefnyddio sesnin, aromatiaid a pherlysiau. Trwy ddefnyddio'r rhain, gellir gwneud pryd cyffredin yn bryd ardderchog. Mewn prydau fel ragouts a chaserols, mae blas y cig a blas y saws yn dylanwadu ar ei gilydd. Gall ffricase sydyn, gan ddefnyddio'r frest, neu gaserol wedi'i goginio'n araf fod yn hyfryd iawn.

Ffowlyn rhost gyda stwffin saetsh a sitrws

Ffowlyn rhost gyda stwffin saetsh a sitrws

Digon i 4

1 cyw iâr buarth, tua 1.5 kilo
4 sosej dda - porc neu ffowlyn
50g sialóts wedi'u sleisio
50g moron organig wedi'u sleisio
1 coes seleri wedi'i sleisio
sudd a chroen tenau hanner lemon a hanner leim
1 llond llwy de grawn pupur gwyrdd, wedi'u malu
12 deilen saetsh ffres
4 tafell bacwn rhesog
100g briwsion bara brown ffres
1 wy
Halen Môn
Pupur newydd ei falu
25ml olew llysiau

Ar gyfer y saws

200ml gwin coch ffrwythog
300 ml stoc ffowlyn (neu sudd llysiau)
100 ml sudd tomato
1 llond llwy de mwstard
1 llond llwy de pesto
50 ml sieri neu win sych

Cynheswch y ffwrn i Nwy marc 8, 450F 230C

Torrwch ddwy dafell o facwn yn sgwariau bach a'u ffrio mewn ychydig o olew nes eu bod yn grimp. Ychwanegwch hanner y sialóts, y moron a'r seleri a'u coginio nes eu bod yn feddal. Torrwch y dail saetsh yn fân ac ychwanegu hanner ohonynt gyda'r grawn pupur a hanner croen tenau'r lemon a'r leim. Ychwanegwch y briwsion bara a'u cymysgu'n dda. Rhowch y gymysgedd mewn powlen. Ychwanegwch halen a phupur, chwisgwch yr wy a'i ychwanegu, yna ychwanegwch dipyn o ddwr cynnes a'i gymysgu'n dda i wneud stwffin.

Gwnewch boced o'r gwddf a'r frest rhwng y croen a'r cig a gwthio'r stwffin i mewn iddi. Rhowch ffon goctel neu sgiwer bach i ddal croen y gwddf.

Rhowch weddill y llysiau, y perlysiau, croen y lemon a'r oren a'r sesnin y tu mewn i'r ffowlyn gyda'r pedair sosej gan adael y twll ar agor. Rhowch ychydig o olew dros y croen i gyd a rhoi'r ffowlyn mewn tun rhostio. Coginiwch yn y ffwrn am hanner awr. Tynnwch o'r ffwrn a chodi'r sudd o'r tun dros y cig. Sesnwch â Halen Môn a phupur. Rhowch y tafelli bacwn wedi'u torri yn eu hanner dros y frest, rhowch y ffowlyn yn ôl yn y ffwrn a throi'r gwres i lawr i farc 4 350F 180C a'i goginio am hanner awr arall.

Codwch y ffowlyn yn ofalus o'r tun heb dorri'r croen a'i roi ar ddysgl gerfio. Rhowch ef yn ôl yn y ffwrn ar y gwres isaf (Marc ? 200F 100C) a'i adael i setio am hanner awr.

Yn y cyfamser, arllwyswch unrhyw saim i ffwrdd. Rhowch win coch yn y tun a'i roi dros wres cymedrol. Crafwch y darnau o waelod y tun. Pan fydd tua hanner yr hylif wedi anweddu, ychwanegwch y stoc a'i goginio am 10 munud. Ychwanegwch y sudd tomato a sudd y ffrwythau sitrws. Rhowch y mwstard, y pesto a gwin mewn jar sydd â chaead tynn a'u cymysgu. Ychwanegwch at y saws. Profwch i weld a yw'r sesnin yn iawn a'i gynhesu trwyddo yn dda.

Cerfiwch y ffowlyn i roi 8 sleisen dda o'r frest, dwy goes isaf a dwy goes uchaf, pedwar darn o'r stwffin, y bacwn a'r sosejys. Rhannwch i bedwar plat cynnes a'i weini gyda'r saws.

Mae saws bara, saws llugaeron, tatws rhost a llysiau gwyrdd yn gwneud hwn yn bryd i'w gofio.

Perl Wen

Caws y mis

Perl Wen

Caws meddal, ifanc ffres yw Perl Wen. Gallwch fwyta'r grofen naturiol sy'n debyg i grofen brie. Caws Cenarth, Boncath, Dyffryn Teifi sy'n gwneud Perl Wen. Mae hon yn fferm organig ac mae buches o wartheg pedigri Ffrisia yn cynhyrchu'r holl laeth a ddefnyddir i wneud y caws. Mae perchennog y busnes, Thelma Adams, wedi gwneud gwaith arloesol yn y diwydiant caws cartref yn y Gorllewin. Mae ei chaws Caerffili cartref wedi ennill nifer o wobrau.

Gwneir caws Perl Wen mewn cosynnau 1.5 - 2 kilo, tebyg i brie bach. Mae'n eithaf solet ac nid oes iddo'r blas sialc a geir weithiau mewn brie ifanc. Gellir clywed gwir flas y llaeth yn y caws hufennog, sydd hefyd yn eithaf siarp. Mae'r caws yn meddalu os caiff ei aeddfedu am 1 - 2 wythnos arall, mewn pantri oer. Wedyn, mae'n feddal fel brie hufennog ond ceir iddo flas llawn, crwn. Gwneir cosynnau bach, tua 300gm, hefyd sy'n ddelfrydol ar gyfer teulu bach. Mae hwn hefyd yn gwella o'i adael i aeddfedu am ychydig.

Mae Perl Wen yn gaws ardderchog ar ddiwedd pryd neu mae'n flasus mewn 'cinio gwas ffarm' neu mewn byrbryd ysgafn. Mae'n dda gyda bara crystiog, bisgedi plaen a seleri.

Cynhyrchir gan - Caws Cenarth,
Fferm Glyneithinog,
Pontseli,
Boncath,
Sir Gaerfyrddin, SA37 0LH
Ffôn: 01239 710432

Pembertons Chocolates

Pembertons Chocolates

Mae wyau siocled yn rhan annatod o wyliau'r Pasg i lawer o bobl. Mae rhai o'r wyau hyn wedi'u haddurno'n gain iawn. Mae pobl wedi bod yn gwneud gwaith celfydd iawn gyda siocled ers Oes Fictoria. Er bod llawer ohonom yn bwyta siocled cyffredin bron bob dydd, gellir gwneud pob math o bethau â siocled.

Mae Pemberton Jones Ltd o Lanboidy yn y Gorllewin, yn gwneud siocledi Fictoraidd mewn ffyrdd traddodiadol heb ychwanegolion artiffisial. Mae ymwelwyr wrth eu bodd yn mynd i'w ffatri a'u siop. Mae ganddynt siocledi mewn dros 200 o gynlluniau wedi'u seilio ar chwedlau a phatrymau Cymreig, yn cynnwys llwy garu a'r plu Cymreig. Maent yn gwneud wyau Pasg o bob maint a ffurf - dyna anrheg ardderchog o Gymru.

Pembertons Chocolates

Pemberton's Chocolates & Confectionery,
The Welsh Chocolate Farm,
Llanboidy, Sir Gaerfyrddin SA34 0EX
Ffôn: 01994 448800

Pembertons on the Square, Caerfyrddin
Ffôn: 01267 222233