Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Caws Pob wy organig wedi?i ferwi
Pice ar y maen

Canolbwynt Bwyd Cymru - Awst

Canolbwynt Bwyd Cymru - Awst

Roedd tywydd y gwanwyn a chychwyn yr haf eleni y gorau ers rhai blynyddoedd, digon o haul a glaw cyson i gadw pob dim yn wyrdd. Mae'r cynaeafu'n cychwyn ym mis Awst. Mae llun o gefn gwlad o'r awyr yn dangos clytwaith o aur lle mae caeau yd wedi'u combeinio, ac eraill yn wyrdd o lysiau, a rhai yn frown, wedi'u haredig yn barod i blannu cnydau'r gaeaf. Mae gan arddwyr marchnad a garddwyr amatur lawer o gynnyrch, a bydd casgliadau godidog ohonynt yn cael eu harddangos mewn nifer o'r sioeau a gynhelir ym mhob sir a phentref.

Mae'r pabelli garddio'n llawn cynnyrch ffres o safon, wrth i arddwyr gystadlu'n frwd am wobrau am bob math o wahanol ffrwythau a llysiau sy'n cael eu tyfu. Yn yr arddangosfeydd mwyaf lliwgar ceir cennin gwyrdd a gwyn, moron oren, ffa dringo gwyrdd sydd gyn sythed â saethau, betys coch fel gwaed, tomatos fflamgoch, corbwmpenni gwyrdd tywyll, tatws o bob maint yn amrywio o liw hufen i borffor tywyll, rhai llyfn a chnyciog, seleri, cabaets, letys, ciwcymbrau, madruddion gwyrdd streipiog, corn-melys yn ei gibyn, a nifer o nionod/winwns mor fawr â pheli pêl-droed. Mae yna fasgedi o ffrwythau, bocsys o fafon a mefus, basgedi'n llawn eirin ac eirin dansus a chewyll o ffrwythau'r berllan megis ceirios, afalau a gellyg.

Draenogiaid y môr a physgod gorau arfordir Cymru

Draenogiaid y môr a physgod gorau arfordir Cymru

Bydd nifer o deuluoedd yn mynd i'r traeth pan fydd hi'n dywydd braf, ac mae yna amryw o draethau yng Nghymru sydd heb eu difetha, gan bod dros 90% o'r arfordir heb ei ddatblygu o gwbl. Ceir penrhynion creigiog a thraethau cysgodol o amgylch arfordir Cymru lle gall teuluoedd fwynhau'r tywod, pyllau'r creigiau a mynd i nofio. Mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig yn Ne Cymru mae amrediad llanw anferthol. Ym Môr Hafren mae'r ail lanw uchaf yn y Byd, ar ôl Bae Fundi yng Nghanada.

Mae'r penrhynion yn creu cerhyntau, darnau o ddwr garw lle mae'r cerrynt yn taro yn erbyn ei gilydd. Er bod y mannau hyn yn beryglus iawn, dyma hefyd y mannau gorau ar gyfer dal y pysgod gorau, sef draenogiaid y môr. Mae yna nifer fawr o lyngesau bach yn casglu o amgylch y cerhyntau hyn i ddal y pysgodyn hwn, sy'n arbennig i'w hela a'i fwyta. Ni fyddai draenogiaid y môr yn cael eu pysgota'n fasnachol dau ddegawd yn ôl, ac anaml iawn y byddai'n ymddangos ar fwydlenni bwytai. Ond mae draenogyn y môr wedi bod yn bysgodyn arbennig i bysgotwyr erioed, sy'n gallu ymladd bwys am bwys cystal a'r eog.

Bydd cychod sy'n pysgota'r cerhyntau'n defnyddio llymrïaid fel abwyd ac yn eu gosod yng nghanol yr heigiau'n iawn. Mae draenogiaid y môr yn fwytawyr rheibus, sydd wrth eu boddau yn y dwr garw. Fe allant gael eu dal yn y rhigylau creigiog pan fydd gor llanw, wrth i'r môr olchi cramenogion a physgod o'r holltau yn y creigiau. Pan fydd llanw uchel bydd nifer yn cael eu dal ger y penrhynion, drwy ddefnyddio abwyd a throellblu artiffisial. Y peth gorau am ddal draenogiaid y môr yw gwefr y frwydr, a'r pryd sy'n dilyn.

Caiff nifer fawr o ddraenogiaid y môr eu dal ar hyd arfordir Cymru, yn enwedig ar arfordir Pen Llyn, Sir Benfro, a Gwyr. Bydd y rhan fwyaf o bysgod masnachol yn cael eu gwerthu yn Llundain neu ar farchnadoedd y cyfandir. Ond bydd nifer o bysgotwyr amatur lleol yn barod iawn i werthu'r hyn maent ei ddal, felly, mae modd i chi fwynhau gwledd dda. Gofynnwch iddyn nhw ddigennu'r pysgodyn a'i ddiberfeddu bob amser. Po fwyaf ffres yw'r pysgodyn pan wneir hyn, y gorau ydyw. Rhowch y pysgodyn mewn oergell cyn gynted â phosib a'i roi mewn haenen lynu i'w atal rhag sychu. Gellir prynu draenogiaid y môr mewn siopau pysgod neu archfarchnadoedd, ond nodwch y pwyntiau canlynol:

Prynu draenogiaid y môr

Nodwedd amlycaf draenogiaid y môr yw'r asgell gefn pigog arnynt. Mae'n ymddangos yn rafinaidd ac yn llyfn, gyda chefn ac ochrau llwyd a "sglein" felyn a phorffor pan fyddant yn ffres iawn, a bol arian gwyn.

Y draenogiaid môr bach o faint cytbwys, sy'n pwyso tua 1pwys (450g), yw'r rheiny sy'n cael eu ffermio a'u mewnforio o wlad Groeg neu Bortiwgal, lle mae'r dyfroedd cynnes yn helpu'r pysgod i dyfu'n gyflym. Rhaid i ddraenogiaid y môr yng Nghymru fod yn 40cm o hyd cyn y gallwch eu cymryd, a rhaid iddynt bwyso o leiaf 1.5 pwys (650g). Felly'r pysgod mwy, anghyson o ran pwysau fydd y pysgod gwyllt.

Mae gan ddraenogyn y môr ben a cheudod perfedd mawr; gall roi hyd at 55% o gig bwytadwy. Mae draenogyn y môr sy'n pwyso 1.5 i 2 bwys (700-900g) yn bryd da i ddau, wedi'i gogio'n gyfan neu wedi'i ffiledu'n ddwy ran dda.

Dewiswch bysgodyn sy'n dywyll, yn llwyd ar y cefn gyda bol arian cadarn bob amser. Dylai'r llygaid fod yn loyw ac yn glir, nid yn ddwl ac wedi suddo. Dylai'r tagellau fod yn goch disglair; os yw'n llwyd neu'n ddwl, mae'n debyg bod y pysgodyn wedi ei rewi neu'n dechrau mynd yn hen.

Mae'n debyg bod draenogiaid y môr sydd â llawer o farciau coch o amgylch yr esgyll, oherwydd gwaedlif, wedi eu dal mewn rhwyd ac wedi dioddef. Mae'r cig yn salach na chig draenogyn y môr sydd wedi ei ddal â lein. (nid yw pysgod eraill megis lledod, penfreision, cegdduon ac ati, yn frwydrwyr mor wyllt â draenogiaid y môr , felly, nid ydynt yn dioddef i'r un graddau wrth eu dal)

I amcangyfrif sawl person bydd draenogyn y môr mawr yn ei fwydo, dylech ganiatáu 350-400g o bysgodyn ar gyfer bob person. Bydd hyn yn rhoi tua 170g-200g ar ôl i'r pysgodyn gael ei baratoi.

Coginio Draenogyn y môr

Pysgodyn cyfan - tynnwch y cen oddi ar y pysgodyn a'i ddiberfeddu a golchi'r ceudod yn drylwyr. Llenwch y ceudod â pherlysiau o'ch dewis chi, e.e. persli a theim; coriander; llysiau'r gwewyr neu ffenigl; mintys y creigiau; ceuled lemwn, neu gymysgedd o nifer o wahanol rai. Roedd stwffin saets a nionyn/winwns ar gyfer cyw iâr yn boblogaidd iawn mewn ardaloedd fel Gwyr a Sir Benfro.

Rhowch y pysgodyn cyfan ar ddarn o ffoil sgwâr ag olew arno. Ychwanegwch ychydig halen môr - Halen Môn - a phupur, a rhowch ychydig o berlysiau ac ychydig o sleisys o lemwn, plygwch yr ochrau ynghyd ac ychwanegwch wydriad bach o win gwyn sych, caewch y ffoil a'i grimpio fel pastai Gernyw, gan adael ychydig aer y tu mewn i'r parsel. Gosodwch ar ddysgl bobi a'i rhoi mewn popty wedi'i gynhesu'n barod i dymheredd o Farc Nwy 6,200C, 400F am 15-20 munud y cilo, yna tynnwch ef allan o'r popty a'i adael i oeri am 10 munud cyn agor y ffoil. Rhowch ar blât a'i gyflwyno gyda thatws newydd a salad wedi ei sgeintio â dresin olew olewydd pur.

(Cyngor: i weld a yw'r pysgodyn wedi coginio drwyddo, agorwch y ffoil ryw ychydig a gwthio sgiwer metel drwy ganol y pysgodyn. Dylai'r sgiwer fod yn gynnes iawn, felly, mae'r pysgodyn wedi'i goginio'n drwyddo.

Ffiledau - bydd draenogyn y môr o faint mwy yn rhoi nifer o ffiledau y gellir eu torri'n 'ddarnau' fel eog, (toriadau talpiog o ffiledau yw darnau neu deils, sy'n debyg i deils to Môr y Canoldir). Gellir grilio, grilosgi, pobi, ffrio neu botsio'r rhain. Coginiwch bysgod yn ysgafn bob amser gan fod y cig yn coginio drwyddo ar 72C, felly, mae'n hawdd gorgoginio, ac o ganlyniad bydd yn mynd yn sych. Mae saws o fath Loire 'beurre blanc' yn berffaith ar gyfer draenogyn y môr os caiff ei wneud yn y dull gwir, pur.

Rysáit

4 ffiled neu ddarn o ddraenogyn y môr tua 150g yr un - gyda'r croen, wedi'i ddigennu.
15ml o olew olewydd
Halen Môn, a phupur gwyn wedi'i falu'n ffres

saws Beurre blanc
500ml Muscadet neu win gwyn sych iawn arall
50g o slots wedi'u torri'n fân
6 pupur gwyn wedi'u gwasgu
10ml finegr gwin gwyn
250g o fenyn Cymreig o ansawdd da heb ei halltu - ar dymheredd yr ystafell
Sudd hanner lemwn maint canolig
mymryn o bupur cayenne

Rhowch y slots, y Muscadet, y puprennau a'r gwin finegr mewn sosban dur gloyw neu enamel, gadewch i gynnwys y sosban ledferwi a'i goginio'n araf iawn nes bydd y sudd i gyd wedi anweddu. Gogrwch y slots, a'u pwyso i lawr yn dda i roi tua 30 - 40ml o sudd. Rhowch y sosban ar dymheredd isel i ganolig, a gan ddefnyddio chwisg balwn ychwanegwch y menyn yn ddarnau bach, un ar y tro, gan guro'n drylwyr nes bydd pob un wedi toddi cyn ychwanegu'r nesaf. Peidiwch â gadael iddo ferwi. Bydd y saws fel hufen ysgafn. Ychwanegwch y lemwn a'r cayenne a'i gadw'n gynnes a'i guro weithiau.

Cynheswch badell fawr neu radell nes iddi gychwyn mygu. Ychwanegwch yr olew a rhowch y pysgodyn yn y badell gydag ochr croen y pysgodyn at i lawr a'i goginio am tua munud nes bydd y croen wedi crimpio. Trowch ef drosodd a'i goginio am 30 eiliad yn unig ar yr ochr hon, gan roi halen a phupur gwyn wedi'i falu'n ffres ar y croen crimp.

Gosodwch bob ffiled ar ganol pedwar plât, croen at i fyny. Rhowch ychydig buerre blanc o'u hamgylch ac ychydig bach dros y pysgodyn, efallai. Rhowch y gweddill mewn jwg saws isel a'i fwyta ar unwaith.

Mae tatws newydd a llysiau gwyrdd yr haf, megis corbwmpenni, pys, ffa Ffrengig, sbigoglys neu gabaets Tsieina yn mynd yn dda gyda'r pryd hwn.

Ble i brynu draenogiaid y môr:

Adwerth

Siop Bysgod Ashton, Marchnad Caerdydd
Rhif ffôn: 02920 229201

Coakley Greene, Marchnad Abertawe
Rhif ffôn: 01792 653 416

Raymond Rees, Marchnad Caerfyrddin
Rhif ffôn: 01267 234144

The Fish Shop, Builder Street, Llandudno
Rhif ffôn: 01492 870430

Pysgod ar y Cei, Aberaeron
Rhif ffôn: 01545 570599

Cyfanwerthu

Llwyn Fishermen's Co., Pwllheli
Rhif ffôn: 01758 720656

Walter Davies, Aberdaugleddau
Rhif ffôn:01646 692331

Vin Sullivan, Blaenafon
Rhif ffôn: 01495 792792

Nodwch: Yn y Saesneg, gelwir draenogyn y môr yn sea bass bob amser ar fwydlenni. Mae Bass yn dod o'r môr. Yng Ngogledd America mae ganddynt ddraenogyn môr a draenogyn dwr croyw, a draenogyn y môr, a dyna lle mae'n debyg y daeth y dryswch. Mae'r "Bass" yn perthyn i'r draenogyn dwr croyw (perch); draenogyn o'r môr ydyw mewn gwirionedd. Gelwidd ef yn ddraenogyn eog (Salmon Bass) yn aml yng Ngwyr Sir Benfro. Dicentrarchus labrax yw ei enw Lladin.

Dyma rai pysgod eraill sydd ar eu gorau yr adeg hon o'r flwyddyn: Hurddyn llwyd (i'w drin yn union fel draenogyn y môr; Diberfeddwch hwn cyn gynted â phosib ar ôl ei ddal) merfog, hyrddyn coch, macrell; John Dory; ysgyfarnog fôr; a phob math o ledod.

Caws Gafr Organig Pantysgawn gan Abergavenny Fine Foods.

Caws y mis

Caws Gafr Organig Pantysgawn gan Abergavenny Fine Foods.

TonyCychwynwyd Abergavenny Fine Foods gan Tony Craske dros chwarter degawd yn ôl wrth iddo gynhyrchu caws gan ddefnyddio llaeth geifr o'i braidd ei hun a oedd yn pori ar ei fferm organig. Roedd yn gynnyrch 'gwerth ychwanegol' clasurol, ac yn cynhyrchu llawer mwy na gwerthu llaeth y geifr yn unig.

Pantysgawn yw enw'r caws gafr organig. Mae'n gaws ffres sy'n cymharu â Ricota neu chevre Ffrengig, heb ei aeddfedu er mwyn creu croen na chrawen naturiol.

Mae ganddo flas pur, ffres, ac nid oes drewdod buarth fferm yn perthyn iddo, rhywbeth sy'n wir am nifer o gawsiau aeddfed Ffrengig a wneir â llaeth gaf. Felly mae'n gaws delfrydol ar gyfer saladau ysgafn, gyda thomatos yn lle mozzarella, neu fel rhywbeth yw roi ar dost neu fisged.

Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer ei roi gyda chynhwysion eraill, megis macrell wedi'i goginio drwy fwg i greu pate neu "mousse" , neu ffrwythau a chynhwysion melys i wneud cacen gaws. Mae'n cymryd blasau eraill yn hawdd iawn ac yn cyfuno'n dda â chynhwysion ffasiynol fel olifau du, tomatos wedi'u sychu yn yr haul, past ansiofi, cafiâr wylys, cafiâr cyffredin, neu'r cafiâr Cymreig, sef bara lawr.

Nid yw caws Pantysgawn yn cael ei felysu: mae'n naturiol, felly, gellir ei ddefnyddio i goginio nifer o brydau sawrus. Mae'n rhoi blas a dyfnder i fflaniau a thartennau sawrus; ansawdd a natur hufen i gawliau; ac yn rhoi blas 'miniog' i stwffin perlysiau neu aromatig ar gyfer cig, cyw iâr a bwyd môr.

Gwerthir caws Pantysgawn fel rholiau bach 150g neu rai mawr 1 cilo sy'n arbennig o addas ar gyfer arlwywyr. Mae hefyd ar gael gyda blasau allanol: puprennau du, perlysiau cymysg a phupur coch.

Tarten sawrus Pantysgawn gyda chennin a bara lawr

Rysáit

Tarten sawrus Pantysgawn gyda chennin a bara lawrCaiff y rhain yn cael eu gwneud gan Patchwork Traditional Foods yn Rhuthun erbyn hyn.
www.patchwork-pate.co.uk

(pryd llysieuol a enillodd wobr "Golden Focaccia" gan Prospect Books)

500g o grwst crwst brau
I lenwi:
3 wy mawr organig
500ml o lefrith organig
100g o gaws gafr organig Pantysgawn
100g bara lawr
100g o gennin (neu sibols) wedi'u coginio ychydig bach a'u torri'n fân
1-2 sbrigyn o bersli, coriander, neu daragon wedi'u torri
I flasu: Llond llwy de o halen môr Halen Môn a thipyn go lew o bupur du.

Cynheswch y popty i farc nwy 4, 150°C, 350°F, a rhoi dysgl bobi yn y popty.

Rholiwch y crwst allan a leiniwch 1 cas tarten sawrus (neu gwnewch 2 o rai llai, neu rai unigol, neu rai o faint coctel)

Cymysgwch yr wyau, y caws, y llefrith a'r bara lawr mewn powlen neu hylifwr, nes iddynt gymysgu'n dda. Ychwanegwch y cennin a'r perlysiau a'u cymysgu'n dda. Ychwanegwch halen a phupur a llenwi'r y casys tarten yn dri chwater llawn. Rhowch nhw ar y ddysgl bobi boeth yn y popty a'u coginio am 15- 20 munud yn ôl pa mor drwchus ydynt. Ond rhaid eu coginio nes bydd y cymysgedd wedi coginio drwyddo, wedi codi ychydig ac o liw euraidd. Gallwch eu bwyta'n boeth neu'n oer.

Gellir amrywio ac addasu'r rysáit i wneud amrywiaeth eang o dartennau sawrus neu "canapés" coctel. Gellir defnyddio llysiau ychwanegol i gennin neu yn eu lle, rhai wedi'u torri a'u coginio ychydig; marchysgall, corbempwnni, sbigoglys, seleri, puprau, tomatos wedi'u sychu yn yr haul, ac ati.

Gwnewch darten sawrus sy'n cynnwys cig drwy ychwanegu bacwn wedi'i goginio a'i dorri, ham Caerfyrddin wedi'i dorri, ham wedi'i goginio a'i dorri, a chigoedd oer eraill.

Gwnewch darten sawrus bwyd môr drwy ychwanegu eog neu diwna wedi'i goginio, eog wedi'i goginio drwy fwg, wystrys neu gregyn gleision, cocos, cig cranc, corgimychiaid neu unrhyw fath arall o bysgodyn neu bysgod cregyn.

Digwyddiadau

Mae diwrnod mewn sioe yn ddiddordeb ac yn adloniant i'r holl deulu. Mae yna dri phrif ddigwyddiad yn ystod mis Awst, yn ogystal â nifer o sioeau pentref llai. Ymysg y prif ddigwyddiadau mae Sioe'r Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin a Sioe Dinbych a Fflint yn Ninbych. Eleni am y tro cyntaf, bydd Blas (Caffi Gwir Flas) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn darparu nifer o fwydydd Cymreig arbennig, o gacenni cri a bara brith gyda phaned o de, i frecwast Cymreig traddodiadol llawn i gychwyn y diwrnod.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Meifod, Powys. Awst 2 - 9
Bydd enillwyr y Gwobrau Gwir Flas a'r caffi Gwir Flas yn darparu amrywiaeth o fwydydd Cymreig o safon a fydd yn cynnwys: Brecwast Cymreig llawn; cacenni cri, bara brith a theisennau gyda phaned o goffi neu de; bydd brecinio ar gael o 10am ymlaen gan cynnwys platiau o gawsiau Cymru, cigoedd o Gymru a bwydydd môr, gyda phrydau i blant a llysieuwyr hefyd ar gael.
www.cymruygwirflas.com

Gwyl Talacharn yng Nghae'r Gors, Talacharn, Awst 4-10 Stondinau bwyd Cymreig lleol i'w blasu a'u prynu. www.laugharne.co.uk

Gwyl Fwyd ac Afon Aberteifi, ym Mharc Ceir y Ganolfan Dreftadaeth, Aberteifi. Awst 6
Stondinau bwyd a diod Cymreig lleol ac arddangosfeydd coginio
www.visitcardigan.com

Sioe'r Siroedd Unedig ar Faes y Sioe, Caerfyrddin. Awst 14-15
Bydd y Neuadd Bwydydd Cymreig yn cynnwys cwmnïau bwyd a diod lleol ac arddangosfeydd coginio.
www.unitedcounties.co.uk

Sioe Llandeilo a Gwyl Fwyd yn Fair fach, Llandeilo. Awst 16.
Cynhyrchwyr bwyd a diod lleol, cystadlaethau ac arddangosfeydd.
Ffoniwch Meurig Davies ar 01558 668788

Gwyl y Bont ym Mhorthrhydfendigaid, Ceredigion. Awst 16
Sioe fwyd leol, arddangosfeydd a chystadlaethau.
www.ybont.com

Regata Geltaidd Bae Ceredigion yng Nghlwb Hwylio Pwlhelli. Awst 18-22.
Bwyd Cymreig yn cynnwys arddangosfa organig.
www.pwlhellisailingclub.co.uk

Sioe Amaethyddol Sir Benfro ar Faes y Sioe, Llwyn Helyg, Hwlffordd. Awst 18-22
Ffenestr ddangos i'r diwydiant Bwyd-Amaeth. Neuadd Arddangos, arddangosfeydd coginio, cogyddion enwog. Tîm Coginio Cymru
www.pembrokeshire.gov.uk

Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint. Awst 21
Cynhyrchwyr Bwyd a diod, arddangosfeydd coginio a chyngor
E-bost: Catrin.jones@cadwynclwyd.co.uk

Gwyl Mynydd Du yn Nhalgarth. Awst 23-24
Stondinau bwyd a ffermio, arddangosfeydd coginio.
www.talgarthfestival.org.uk

Gwyl Haf Bannau Brycheiniog yng nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus, Aberhonddu. Awst 23-25
Stondinau bwyd a diod ac arddangosfeydd coginio
www.breconbeacons.org

Neuadd y Farchnad a chae'r Ffair, Crymych. Awst 26
Bwyd, diod a marchnad grefftau
www.crymych.org.uk

Sioe Meirionydd yn Nolgellau. Awst 27
Gwyl fwyd yn cynnwys bwyd a diod lleol o Gymru. Arddangosfeydd gan gogyddion enwog.
Ffoniwch Douglas Powell ar 01341 422837 neu anfonwch neges e-bost at sioesir@aol.com