|
|
|||
![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() ![]() Mae Technium CAST yn cynnig cefnogaeth busnes drwy’r Lywodraeth Cynulliad Cymru a mentrau cefnogaeth busnes lleol eraill. Mae rheolwyr cyfrif y Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gael i ddarparu perthynas waith agos gyda chwmnïau Technium CAST a chymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod y ddarpariaeth cefnogaeth busnes yn bodloni disgwyliadau’n llawn. Cliciwch yma am wybodaeth bellach Gall Technium CAST gysylltu ei gwmnïau ag ymgynghorwyr arbenigol i’w cynorthwyo i ddod o hyd i raglenni Technoleg ac Arloesedd addas a gynigir drwy’r Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriad y rhaglenni hyn yw helpu busnesau yng Nghymru i lwyddo drwy gymhwyso, rheoli a datblygu syniadau arloesol a thechnolegau newydd. Er y gall amryw feini prawf cymhwyster fod yn berthnasol i raglenni unigol, mae llawer ohonynt am ddim neu maent yn cynnig cyllid. Gellir teilwra pob un ohonynt i gyd-fynd ag anghenion busnes penodol. Cliciwch yma am wybodaeth bellach Mae sawl pecyn ariannol ar gael i gwmnïau Technium CAST ar gyfer datblygu cynnyrch a phrosesau newydd. |
|
|
![]() |
|||