Mae Technium CAST (Canolfan ar gyfer Technoleg Meddalwedd Ddatblygedig) yn canolbwyntio ar fanteisio ar botensial masnachol cyfrifiadureg dosbarthedig grymus, yn enwedig wrth i’r farchnad am feddalwedd GRID cydweithredol dyfu.

Mae’r cyfleuster 6,500 m sg ym Mharc Menai ym Bangor yn cynnig nifer o gyfleoedd soffistigedig i fusnesau. Gall tîm Ymchwil a Datblygu neilltuedig Technium CAST gydweithredu â chwmnïau i ddatblygu eu prosiectau masnachol ymarferol newydd gan ddefnyddio labordai o’r radd flaenaf. Yn wir, mae’r gofod technegol rheoledig tymor byr a ddarperir gan westai meddalwedd Technium CAST yn cynnig agwedd ychwanegol, gan alluogi cwmnïau i werthuso technolegau newydd, neu arddangos eu rhai eu hunain, er enghraifft. Mae gofod deori hefyd ar gael ar gyfer busnesau technoleg newydd.

Mae Technium CAST yn gartref hefyd i stiwdio delweddu 3D, ystafell fynediad GRID aml-gast ac mae ei chysylltiadau band eang tra chyflym yn galluogi timau datblygu byd eang i gydweithredu ar brosiectau.

Bydd Technium CAST hefyd yn dod yn ganolbwynt i ddiwydiant technoleg cynyddol Gogledd Cymru.