![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() Bydd manylion am gwmnïau Technium Digidol@Sony yn ymddangos yma yn fuan. Ubiquisys Cwmni telegyfathrebu ifanc ac egnïol yw Ubiquisys sydd yn rheng flaen ymgyrch fyd-eang i ddatblygu'r dechnoleg ffemtogellol i wella derbyniad ffonau cell 3G o dan do. Ffurfiwyd y cwmni yn 2004, ac yn Swindon y mae ei bencadlys; bydd yn cynnal ymchwil a datblygu pellach ar ei gynnyrch yn Technium Digital@Sony ac mae'n gobeithio dechrau cynhyrchu swmpus yn ddiweddarach eleni. Y cwsmeriaid y bydd yn eu targedu fydd y prif weithredwyr rhwydweithiau. Ruskinn Technologies Symudodd Ruskinn Technologies i Technium Digital@Sony yn 2006 a bu'n gweithio gyda Sony Manufacturing ac amryw o sefydliadau academaidd rhyngwladol i ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer y farchnad Ffrwythloni In Vitro (IVF) o'r enw “AC-TIVE”. Disgwylir lansio'r gweithfannau dan reolaeth nwy sydd o dan batent yn 2007, a disgwylir y bydd y rhain, sydd â'u hamgylchedd integrol eu hunain, yn golygu y bydd gan gleifion sy'n cael triniaeth IVF well cyfle o gryn dipyn i gael canlyniad llwyddiannus. NCCS Mae NCCS yn gwmni meddalwedd Americanaidd o Galiffornia sydd wedi penderfynu ehangu ei orwelion yn ddiweddar trwy agor swyddfa Ewropeaidd yn Abertawe.Mae ei gynnyrch - NCL - yn becyn CAD/CAM (Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur/Cynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur) 3-Dimensiwn Graffigol ar gyfer y diwydiant cynhyrchu cymhleth. I weld y cyfleusterau a gynigir gan Technium Digidol@Sony, cliciwch ar y cyswllt isod: |
|
|
![]() |
|||