![]() |
|
||
![]() |
|||
|
Technium Digidol@Sony
d/o Canolfan Dechnoleg Sony Parc Technoleg Pencoed Penybont-Ar-Ogwr CF35 3HY Lleolir Technium Digidol@Sony yn y Ganolfan Dechnoleg, Pencoed, De Cymru. Mae’r safle’n gyfagos i Draffordd yr M4 (cyffordd 35) gyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Abertawe 45 munud i ffwrdd yn unig. Mae cysylltiadau rheilffordd â Phen-y-bont ar Ogwr yn cynnig mynediad cyflym a rhwydd i Lundain (2 ½ awr) a chanolbarth Lloegr (2 awr). Mae gweithrediad Sony ym Mhencoed eisoes yn gartref i ganolfan Ymchwil a datblygu ac mae’r cwmni’n bwriadu defnyddio’r bartneriaeth newydd hon i ddatblygu cynnyrch newydd ac arloesol. Mae Technium Digidol@Sony yn cynnig llety hyblyg wedi’i wasanaethu sy’n cynnwys naw uned busnes hunangynhwysol wedi’u gwasanaethu’n llawn gydag isadeiledd cyfathrebu band eang a mynediad i Rwydwaith Preifat Rhithwir Technium. Sut i gyrraedd Technium Digidol yn Sony o Draffordd yr M4 Gadewch ar Gyffordd 35 am Pencoed a dilynwch yr arwyddion i Barc Ymwelwyr Technoleg Sony. Parhewch at y glwyd ddiogelwch, pwyswch fotwm yr intercom a gofynnwch am gymorth. Dilynwch yr arwyddion i faes parcio Technium ewch at y Fynedfa. |
|
|
![]() |
|||