![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() Cefnogaeth Busnes a Marchnata Mae Technium Digidol@Sony yn cynnig cyngor busnes cyffredinol yn canolbwyntio ar gefnogi tyfiant a datblygiad busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae’r ymgynghorwyr busnes yn annog perthynas waith agos â chwmnïoedd Technium Digidol@Sony ac yn cymryd arnynt y cyfrifoldeb o sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi busnes yn cwrdd â gofynion yn llawn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Cefnogaeth Technoleg Mae Technium Digidol@Sony yn cynnig ymgynghoriaeth arbenigol mewn meysydd megis Technoleg ac Arloesi ac Eiddo Deallusol, ac yn cynorthwyo cwmnïoedd i adnabod rhaglenni Technoleg ac Arloesi addas a gynigir drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u neilltuo i gynorthwyo busnesau yng Nghymru i lwyddo drwy gymhwyso, rheoli a datblygu syniadau arloesol a thechnolegau newydd. Er y gall meini prawf amrywiol ar gyfer pennu cymhwyster fod yn addas i raglenni unigol, mae llawer yn rhad ac am ddim neu’n rhoi mynediad i gyllid. Gellir eu haddasu i gyd er mwyn cwrdd â gofynion busnes penodol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Cefnogaeth Ariannol |
|
|
![]() |
|||