![]() |
|
||
![]() |
|||
![]() Croeso i Technium Digidol@Sony![]() Rhan o rhwydwaith Technium Cymru yw Technium Digidol@Sony. Mae'n darparu'r wybodaeth, y cymorth a’r cyfleusterau ffisegol perthnasol i helpu busnesau technoleg ifanc i wireddu eu potensial ar gyfer twf tymor hir. Mae Technium Digidol@Sony yn darparu amgylchedd deori er mwyn i fusnesau technoleg ifanc droi eu syniadau'n realaeth fasnachol. Mae ffocws 'cynllunio ar gyfer cynhyrchu' y cyfleuster yn gwneud Technium Digidol@Sony yn amgylchedd delfrydol ar gyfer busnesau technoleg ifanc sy'n cynhyrchu dyfeisiau electronig/digidol. Mae Technium Digidol@Sony yn gyfleuster deori lloeren i'r Technium Digidol yn Abertawe, a chaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Sony a Phrifysgol Cymru, Abertawe. “Mae’n hwb enfawr pan mae corfforaeth fyd-eang fel SONY - sy’n enwog am arloesedd - yn ymuno â’r Brifysgol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi’n weithgar a chyfranogi mewn menter mor fawr.” “Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi’r cyfle i ni weithio gyda chwmnïau newydd a chwmnïau sy’n datblygu, i’w helpu i ehangu a chodi lefel arbenigedd technolegol yn y maes.” |
|
||
![]() |
|||