Mae optoelectroneg yn gyfuniad arloesol ac un sy’n galluogi technoleg optegol ac electroneg. Mae’r dechnoleg yn amlwg mewn ystod o gynhyrchion masnachol a domestig gan gynnwys cyfathrebu opteg ffibr, storfa optegol DVD/CD, dangosyddion ffôn a chyfrifiadur, argraffwyr a sganwyr laser, camerâu fideo a digidol a laserau a ddefnyddir ar gyfer cymwysiadau lu fel datgelu, torri, weldio a chodio.
Mae OpTIC (Canolfan Deori a Thechnoleg Optoelectroneg), yn rhan o’r Rhwydwaith Technium yng Nghymru , ac mae’n gyfleuster cyffrous newydd sydd wedi’i ymroi i’r diwydiant optoelectroneg byd-eang. Nod OpTIC yw tyfu busnesau technoleg optoelectroneg a thechnolegau cysylltiedig. Gall OpTIC gefnogi hyd at 24 o fusnesau technoleg cychwynnol mewn unedau hyd at 150 metr sgwâr. I gefnogi hyn mae gan yr OpTIC Ganolfan Dechnoleg wedi’i chyd-leoli, a chanddi gyfleusterau ystafell lân at ddefnydd y tenantiaid ac mae hefyd yn gartref i nifer o grwpiau technoleg marchnad-agos. Mae Canolfan Fusnes yn ategu’r hyn sydd gan OpTIC i’w gynnig ac mae ystod lawn o gefnogaeth ar gael oddi wrth raglenni mentora, o ariannu, diogelu eiddo deallusol a marchnata i ganolfan gynhadledd a bwyty. Mae gan y lleoliad hwn i fusnesau cychwynnol yr holl gynhwysion angenrheidiol ar un safle i roi’r cychwyn a’r llwybr gorau bosibl i lwyddiant hirdymor busnesau cychwynnol.
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Technium Cymru