Ynglwn â Technium

Sefydlwyd cysyniad Technium mewn ymateb i dargedau a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i yrru menter ac arloesedd ymlaen yng Nghymru.  Mae Technium yn llwyddo i gyflawni yn erbyn y targedau hyn mewn nifer o feysydd allweddol:-

  • Mae Technium yn mabwysiadu ymagwedd unedig, integredig at gefnogaeth busnes a thechnegol ar gyfer y cwmnïau sy’n denantiaid iddo.
  • Mae Technium yn annog ymagwedd o bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y byd academaidd a’r sector preifat tuag at gefnogi ei gwmnïau.
  • Mae Technium yn gweithio gyda chwmnïau mewn cyfnod cynnar i oroesi’r rhwystrau arferol i lwyddiant
  • Mae Technium yn magu busnesau sydd â’r potensial i lwyddo ac sydd â’r gallu i ddangos twf cryf ac yn gwella’r hinsawdd ar gyfer menter yng Nghymru.
  • Mae Technium yn annog busnesau yng Nghymru i ddod yn fwy cystadleuol drwy ddatblygu a mabwysiadu technolegau o'r radd flaenaf, ac arloesedd o ran prosesau a chynnyrch.
  • Mae Technium yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cwmnïau Cymreig a buddsoddwyr tramor sy’n gobeithio sefydlu prosiectau YaD.
  • Mae Technium yn annog datblygiad clwstwr ar draws sectorau allweddol megis optoelectroneg, cyfryngau digidol, TG/Meddalwedd, technolegau cynaliadwy, technolegau modurol a biowyddoniaeth.
  • Mae Technium yn manteisio ar dalentau graddedigion yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth.
  • Mae Technium yn darparu mynediad fforddiadwy i fusnesau i isadeiledd cyfathrebu lled-band uchel.
  • Mae Technium yn galluogi datblygu syniadau newydd yn fasnachol ac yn llwyddiannus, o ble bynnag y byddant yn ymddangos, drwy annog a chefnogi mwy o ymchwil a datblygu o ansawdd uchel sydd â photensial masnachol.
  • Mae Technium yn sefydlu Cymru fel esiampl fyd-eang ar gyfer datblygu fframweithiau deori cenedlaethol.
  • Mae Technium yn gweithio fel catalydd ar gyfer adfywio rhanbarthol.