Meini Prawf Cymhwyster

Mae Technium wedi gosod nifer o feini prawf ar gyfer tenantiaeth sy’n cael eu defnyddio fel canllaw ar gyfer dewis cwmnïau addas.  Y meini prawf hyn yw:-

  • eu bod yn gwmnïau arloesol, gyda photensial twf uchel
    Bwriad amgylchedd Technium yw cynorthwyo cwmnïau arloesol i dyfu’n gyflym.  Disgwylir y bydd cwmnïau’n aros mewn Technium am gyfnod rhwng 2 a 3 flynedd, ac y byddant wedi ehangu yn ystod y cyfnod hwn, ac yn barod i symud i unedau mwy (e.e. Technium 2) neu i ddatblygu eu hadeiladau eu hun.
  • eu bod yn rhan o sector Technoleg Uchel neu sector yn Seiliedig ar Wybodaeth
    Mae Cymru yn annog pobl i greu a datblygu cwmnïau yn y sectorau Technoleg Uchel/Seiliedig ar wybodaeth.  Mae rhwydwaith Technium yn rhan o’r strategaeth hon ac mae’n canolbwyntio ar gwmnïau o fewn y sectorau hyn.
  • eu bod yn manteisio ar HED (IPR)
    Bydd cwmnïau Technoleg Uchel/Seiliedig ar wybodaeth fel arfer yn manteisio ar eu Heiddo Deallusol eu hunain neu ar Eiddo Deallusol trwyddedig.
  • eu bod yn cymryd rhan mewn Ymchwil a Datblygu
    Fel arfer, bydd cwmnïau Technium yn cymryd rhan mewn gweithgareddau YaD sy’n ymwneud â chynnyrch, prosesau a thechnolegau newydd.  Mae Technium yn annhebygol o gynnwys cwmnïau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi neu ymgynghori yn unig.
  • bod ganddynt gysylltiadau academaidd eisoes, neu’n dymuno datblygu rhai
    Mae Technium yn bartneriaeth gyda chysylltiadau agos ag adrannau Prifysgol ac, yn arbennig, â Chanolfannau Rhagoriaeth mewn Technoleg a Chydweithrediad Diwydiannol y Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Disgwylir y bydd gan nifer o gwmnïau Technium gysylltiadau cynhyrchiol ag adrannau academaidd o’r fath, neu y byddant yn eu datblygu.
  • bod ganddynt Dîm Rheoli medrus
    Dylai fod cydbwysedd yn y tîm rheoli er mwyn gofalu am ochr ariannol/busnes y cwmni yn ogystal â sicrhau bod ganddo’r arbenigedd technegol angenrheidiol.
  • eu bod wedi datblygu gwybodaeth dda o’r Farchnad briodol
    Disgwylir bod rhywfaint o ymchwil i'r farchnad wedi cael ei wneud sy’n berthnasol i’r cynnyrch/ broses/ dechnoleg a ddatblygir.
  • bod ganddynt statws ariannol cynaliadwy
    Dylai fod cyfrifon a rhagolygon llif arian ar gael sy’n disgrifio ffynonellau arian a/neu refeniw sy’n bodoli neu a ddisgwylir, ac sy’n dangos cynaladwyedd a dyheadau twf y cwmni yn ystod ei denantiaeth yn Technium.
  • eu bod wedi ystyried eu hanghenion penodol ar gyfer tenantiaeth mewn Technium
    Mae Technium yn fwy na man swyddfa’n unig, gan ddarparu lefel uchel o gyfleusterau a chefnogaeth busnes a thechnoleg i’w gwmnïau.  Dylai cwmnïau sy’n ymgeisio ddisgrifio’r elfennau hynny o gefnogaeth Technium y bydd arnynt eu hangen yn ystod cyfnod eu tenantiaeth.
  • eu bod wedi ystyried y cyfnod y dymunent aros yn yr amgylchedd Technium
    Dylai cwmnïau Technium fod wedi ystyried strategaeth ar gyfer gadael yr amgylchedd Technium, yn benodol, trwy ddatblygu dealltwriaeth dda o’r hyn fydd yn cyfrif fel llwyddiant iddynt.
  • bod ganddynt Gynllun Busnes/ Marchnata sefydledig a chredadwy
    Dylai’r cynllun busnes fod yn gynhwysfawr ac yn mynd i’r afael â’r holl bwyntiau a restrir uchod.
  •