• Prifysgol Cymru Abertawe
  • Fel partner allweddol yn Technium, mae Prifysgol Cymru Abertawe wedi sefydlu a datblygu cyswllt cryf gyda Technium Abertawe. Dros y blynyddoedd, mae sawl adran academaidd hefyd wedi datblygu ac adeiladu partneriaethau, cydweithrediadau a phrosiectau ymchwil gyda chwmnïau Technium, gan gynnwys yr adrannau canlynol.               

  • Electroneg Pwer
  • Gwyddorau Cyfrifiadur
  • Peirianneg (Aerofod, Proses Cemegol a Biolegol, Sifil, Trydanol ac Electronig, Gwybodaeth, Technoleg Gwybodaeth, Cyfathrebu a Chyfrifiant (TGCC), Deunyddiau a Pheirianneg Mecanyddol)  
  • Gwyddorau bywyd a’r ysgol glinigol 
      
  • Canolfan Datblygu Gwybodaeth (KEC)
    Mae Prifysgol Cymru Abertawe wedi sefydlu’r Ganolfan Datblygu Gwybodaeth i gydlynu a gwella gweithredu ‘Trydedd Genhadaeth’ y Brifysgol (gweithgareddau addysgu ac ymchwil di-graidd).               
  • Mae’r Ganolfan Datblygu Gwybodaeth yn gweithredu fel canolbwynt strategol datblygu economaidd yn y rhanbarth. Trwy ryngweithio gyda myrdd o bartneriaid, mae’r Ganolfan yn anelu at fod yn ganolbwynt rhanbarthol cydnabyddedig ar gyfer partneriaeth a datblygu ar y cyd ym meysydd:    

  • Entrepreneuriaeth (Ysgoloriaeth KEF)
  • Cyn-Masnacheiddio Eiddo Deallusol             
  • Ymchwil a Datblygu
  • Datblygu Sgiliau 
  • Trosglwyddo Technoleg ac Arloesedd
  • (Cliciwch trwyddo ar gyfer y wybodaeth ganlynol)

    Yn y Brifysgol, mae’r KEC yn cydlynu gweithgareddau’r:      

  • Ganolfan Datblygu Gwybodaeth
  • CETIC - menter a ariennir ar y cyd gan Awdurdod Datblygu Cymru a KEF. Fe’i sefydlwyd i ddarparu’r adnoddau gwyddonol, technegol ac ymchwil gorau yn  sefydliadau Addysg Uwch Cymru i gwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
    Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a ariennir gan DTI yn allweddol yn ysgogwr allweddol cysylltiadau diwydiant-academia.
  • UNILINKS  - Cydweithrediad â’r gymuned fusnes leol i gyflawni a ffurfio partneriaethau cynaliadwy gyda sefydliadau sector preifat a chyhoeddus a chynorthwyo’r Brifysgol wrth rannu ei gwybodaeth ragorol gyda diwydiant.                      
  • Athrofa Addysg Uwch Abertaw
  • Mae’r Athrofa yn Goleg Cyswllt Prifysgol Cymru ac yn ganolfan gymeradwyedig ar gyfer rhaglenni CABT Cenedlaethol Uwch a CGC. Sefydlwyd cysylltiadau â:                                         

  • Modelu cyfrifiaduron
  • Cyfadran Dylunio a Pheirianneg Cymhwysol (Mae’r gyfadran yn cynnwys ysgolion Peirianneg Modurol, Technoleg Cyfrifiadur a Rhyngrwyd, Cyfrifiadureg, Cyfryngau Digidol, Dylunio Diwydiannol, Logisteg, Peirianneg Mecanyddol a Gweithgynhyrchu)      
  • Canolfan Cyfryngau Digidol
  • Cliciwch yma am wybodaeth bellach am arbenigedd academaidd