Banner

Mae Technium Abertawe wedi’i leoli ar ddatblygiad newydd SA1 Glannau Abertawe yn Ne Orllewin Cymru, gyda golygfeydd trawiadol o Ardal Arforol Abertawe.  Hwn oedd yr adeilad Technium cyntaf i gael ei adeilad ac fe’i datblygwyd trwy bartneriaeth â’r Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Cymru Abertawe.  Mae arwynebedd llawr o 2,000 m sg yn y Technium hwn, yn cynnwys 14 uned deori sy’n gartref i fusnesau yn seiliedig ar wybodaeth ar draws amrediad o sectorau, megis TG/meddalwedd, y Cyfryngau, Dylunio, Electroneg, Electroneg Puer, Telathrebu, Fferylliaeth ac ati.

“Roedd cwmnïau yn tyfu y tu hwnt i Technium Abertawe adeilad gwreiddiol, ac yn symud i gyfleusterau mwy yn Technium Abertawe lle i dyfu, yn rhan o’r weledigaeth wreiddiol. Rydym yn creu piblinell o fusnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn tyfu yn y rhanbarth.”
Dr Stephen Davies, Cyfarwyddwr Technium Cymru Gyfan

                                                 

“Trwy Technium Abertawe, mae’r WDA wedi rhoi’r math o gymorth i ni sy’n annog cwmnïau uwch-dechnoleg fel Rockfield i ffynnu. Mae’r cyfuniad o gyngor ac arweiniad arbenigol a’r cyfleusterau diweddaraf wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i dwf Rockfield ac edrychwn ymlaen at ddefnyddio’r rhaglen Technium ymhellach”                  
John Cain, Rheolwr Gwerthu Rockfield Software