Skip to main content

The Welsh Development Agency (WDA)

Access Keys

Utilities Navigation

Section Navigation


Cystadleuaeth Cynllunio Busnes ar gyfer Cwmnïau Newydd a Chwmnïau Deilliedig Technoleg Twf Uchel


Mae Cystadleuaeth Technium yn gystadleuaeth flynyddol ar gyfer busnesau technoleg newydd a busnesau technoleg yn deillio o sefydliadau addysg yng Nghymru a’r DU. Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys rhaglen hybu busnes bwrpasol ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus a phecyn deniadol o wobrau ar gyfer y buddugol a’r enillwyr eraill. Mae’r gystadleuaeth hefyd yn rhoi llwybr cyflym i Technium, rhwydwaith canolfannau arloesi Cymru sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau technoleg ifanc.

Mae Cystadleuaeth Technium nawr yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer cystadleuaeth 2008/09.  Ydych chi’n addas?

  • Ydych chi’n unigolyn, yn wyddonydd, yn fyfyriwr graddedig, yn gwmni technoleg newydd neu gyfredol sy’n gwneud gwaith Ymchwil a Datblygu?
  • Ydych chi wedi bod yn masnachu am lai na 24 mis?
  • Ydych chi am dderbyn cymorth academaidd neu’n derbyn cymorth yn barod?
  • Ydych chi’n manteisio ar Hawliau Eiddo Deallusol (IPR)?
  • Oes gennych chi dîm rheoli medrus?
  • A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn derbyn cymorth mewn meysydd fel cael gafael ar gyllid a’i reoli, allforio, cynllunio busnes, marchnata, gwerthu, cyflwyno syniad, IPR ac adnoddau dynol?
  • Ydych chi’n chwilio am lwybr cyflym i Technium?
  • Os ateboch chi’r cwestiynau hyn yn gadarnhaol, cysylltwch â ni heddiw yn:

    Cystadleuaeth Technium
    E-bost: enquiries@technium.co.uk


    Linciau Defnyddiol


    Ynglwn â Technium
    Cystadleuaeth Technium (Rhyngwladol)
    Pam y dylech gymeryd rhan mewn cystadleuaeth cynllun busnes

    _________________________________________________________________

    Prif Noddwyr 2007/08 

    Noddwyr Gwasanaethau Proffesiynol 2007/08

    Noddwyr Eraill 2007/08

     
    Mewn Partneriaeth â ( 2007/08):-

    Site Navigation Repeated

    WAG EU Logo