Mae Technium Peirianneg Perfformiad yn falch iawn o’i bartneriaeth unigryw gyda’r sectorau cyhoeddus/preifat. Caiff y prosiect ei arwain Lywodraeth Cynulliad Cymru gan a Phrifysgol Abertawe a’i gefnogi gan a chyllid Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd. Mae nifer o bartneriaid eraill yn cyfrannu hefyd, ac yn cynnig buddiannau penodol i Technium:-

IBM
Mae IBM, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, wedi sefydlu Canolfan Ragoriaeth gyntaf y DU ar gyfer Rheoli Cylch Bywyd Cynhyrchion (PLM), gan gynnwys ystafell PLM arbennig yn adeilad Technium Peirianneg Perfformiad.

Athrofa Addysg Uwch Abertawe
Mae Cyfadran Peirianneg a Dylunio Cynhwysol Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn cynnwys Ysgol Peirianneg Modurol sy’n cynnig rhaglenni i ddatblygu a gwella sgiliau peirianneg i gefnogi diwydiant modurol Cymru.

Cyngor Sir Caerfyrddin
Caiff Technium Peirianneg Perfformiad, a leolir yn Sir Gaerfyrddin, ei gefnogi’n llawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Clwb Rasio Moduron Prydain
Mae Cylchffordd Penbre Clwb Rasio Moduron Prydain wedi’i lleoli o fewn cyrraedd i gyfleuster Peirianneg Perfformiad Technium.

Fforwm Modurol Cymru
Mae Fforwm Modurol Cymru’n canolbwyntio ar ysgogi’r cyflenwad o gydrannau ac is-ddarnau gosod er mwyn i Gymru allu parhau i gyflenwi ar gyfer y diwydiant moduron byd-eang. Mae hefyd yn canolbwyntio ar gynnal a chyflymu natur gystadleuol Cymru o ran pris, ansawdd, cyflenwad, systemau a phrosesau.

Fforwm Awyrofod Cymru
Fforwm Awyrofod Cymru yw llais y diwydiant awyrofod yng Nghymru a’i nod yw adeiladu ar y sylfaen diwydiannol awyrofod cyfredol a chreu canolfan arloesedd a rhagoriaeth ym maes awyrofod a gydnabyddir yn rhyngwladol.