![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() Cymorth Busnes a Marchnata Mae gan Technium Peirianneg Perfformiad dîm o ymgynghorwyr arbenigol sy’n canolbwyntio ar gefnogi twf a datblygiad busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae ymgynghorwyr busnes ymroddedig wrth law i gynnal perthynas waith agos gyda chwmnïau Technium a nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod y darpariaethau cymorth busnes yn bodloni disgwyliadau’n llawn. Cliciwch yma am wybodaeth bellach (This link will open in a new window) Cymorth Technoleg Gall Technium Peirianneg Perfformiad gynnig mynediad i ymgynghorwyr arbenigol i gynorthwyo cwmnïau i nodi rhaglenni Technoleg ac Arloesedd addas a gynigir drwy’r Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y rhaglenni hyn yw helpu busnesau yng Nghymru i lwyddo trwy reoli, datblygu a rhoi syniadau arloesol a thechnolegau newydd ar waith. Er y bydd meini prawf cymhwyster amrywiol yn berthnasol i raglenni unigol, mae llawer ohonynt yn ddi-dâl neu’n cynnig mynediad i gyllid. Gellir addasu’r holl raglenni i ddiwallu anghenion busnes arbennig. Cliciwch yma am wybodaeth bellach (This link will open in a new window) Cymorth Ariannol Mae sawl pecyn ariannol ar gael i gynorthwyo cwmnïau Technium i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd. |
|
|
![]() |
|||